Rhaglen Eleni

 

'Noson profi Seidar a Chwrw'

13eg Ionawr 2018 19:00

Lleoliad: Pot Jam, Porthaethwy




      Taith Gerdded 2018

      7fed Gorffennaf 2018

      Lleoliad: Llanberis

      Daeth y criw at ei gilydd yn Neiniolen ar fore Sadwrn hyfryd.
      Cawsom daith ddiddorol i lawr at Llyn Padarn, gan gynnwys gweld cytiau Sir Fon lle y byddai y chwarelwyr o'r ynys yn aros yn ystod yr wythnos gwaith.
      Cerdded wedyn mewn coedwig gysgodol cyn clip go serth i Lodge Dinorwig am ginio blasus a mwynhau y gwmniaeth.
      Diolch i Jane am drefnu taith gerdded wych ac i Justin am ei waith cydlynu hefyd.
      Gan obeithio y bydd y rhai nad oedd yn gallu bod efo ni yn cael cyfle i ymuno flwyddyn nesaf - mae'r daith gerdded yn dipyn o uchafbwynt yn y flwyddyn erbyn hyn.

      Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

      • 1f
      • 2f



        Cynhadledd y Gymdeithas Ddeintyddol 2018

        13eg Hydref 2018 09:00

        Lleoliad: Gwesty'r Marriott, Abertawe

        Cynhadledd 2018
        ​​​​​​Adroddiad - Dr Rhys Davies

        Brwydrodd nifer dda ohonom drwy gorwyntoedd, glawogydda llifogydd i fod yn bresennol yng Ngwesty'r Marriot ynAbertawe i fwynhau’r Gynhadledd.
        Yng nghyfarfod cyntaf y bore, a lywyddwyd gan Quentin, cawsom ein harwain i fyd deintyddiaeth flaengar a chymhlethgan Dr Mike Hughes (Meics) sydd yn gweithio mewndeintyddfa arbenigol ym Mhorthaethwy, Sir Fôn. Mewncyflwyniad trylwyr, bu Meics yn trafod y protocolau y byddyn eu dilyn ac yna dangosodd nifer o enghreifftiau o'r gwaith(a'r gwyrthiau!) y bydd yn eu cyflawni. Cafwyd nifer o gwestiynau craff o'r llawr ar ôl y cyflwyniad, sydd yn fesur o werth y ddarlith.
        Bu’n rhaid gosod y ‘rheol Gymraeg’ ar un ochr yn rhan nesafy Gynhadledd. Yn dilyn ein hymgyrch i ddwyn perswâd ar yr Ysgol Ddeintyddol yng Nghaerdydd i dderbyn mwy o Gymryi astudio yno, fe roddwyd gwahoddiad i'r Deoniaid, AlastairSloan (Ysgol Ddeintyddol) a David Thomas (Ôlraddedig) igyflwyno rhai o'u problemau a rhannu eu gobeithion. Cafwydnifer o ystadegau diddorol gan yr Athro Sloan, a bu trafodaethfrwd yn dilyn ei anerchiad. Roedd hyn yn adlewyrchiad o'rteimlad yn ein mysg fod y sefyllfa wedi bod yn anfoddhaol yny gorffennol. Gobeithiwn y bydd y drefn newydd yn yr YsgolDdeintyddol yn gwella’r sefyllfa, er mwyn dod â Chymru’nnes at gael y llwyddiant sydd eisioes yn bodoli yn yr Alban, erenghraifft.
        Ar ôl cinio, croesawodd Siôn, Llywydd y prynhawn, eigefnder, Tweli Griffiths, i draddodi Darlith Goffa Arfon. Mae’n amlwg fod hwyl ac asbri ym mer esgyrn teulu’rGriffithsiaid. Cawsom ein diddanu’n ardderchog gan Tweli, a chlywed am rai o'r profiadau a brofodd yn ystod ei yrfanewyddiadurol a dogfennol, rhai ohonyn nhw’n codi blew argorun ambell un (heblaw am William a Rhys, wrth gwrs!).
        Yna, aethom ymlaen i'r ornest am Dlws Bryn gyda dwy’ncymryd rhan a’r ddau gyflwyniad yn dra gwahanol o ran pwnc. Hanes ei phrofiadau yn Honduras a gafwyd gan GlesniGuest-Rowlands a chanolbwyntio ar driniaeth claf wnaethBethan Pritchard – dau gyflwyniad da a diddorol.Llongyfarchiadau i Bethan am ddod i'r brig.
        Daeth y Gynhadledd i ben fel arfer gyda’r Cyfarfod Blynyddol. Bu’r cinio answyddogol gyda'r hwyr yn llwyddiant er mai trefniant-munud-olaf oedd o.
        Diolch i bawb a fu’n gyfrifol am y trefnu; bu’n Gynhadledd hapus a llwyddiannus er gwaethaf y storm.
        Edrychwn ymlaen at gyfarfod eto yn Aberystwyth yn 2019.


        Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

        • 1
        • 2
        • 3
        • 4
        • 5
        • 6
        • 7
        • 8
        • 9
        • 10


        Mae'r dogfennau a ganlyn a gael ar gyfer y digwyddiad hwn.



        Archif

        Mae manylion am ddigwyddiadau’r blynyddoedd blaenorol ar gael drwy glicio'r flwyddyn isod:


        © 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol