Y Gymdeithas Ddeintyddol

Croeso i wefan y Gymdeithas Ddeintyddol.
Cliciwch un o’r dewisiadau isod i fynd ymlaen i’r adran briodol.

Sefydlwyd y Gymdeithas Ddeintyddol ym 1991 i wasanaethu deintyddion ac ymarferwyr cysylltiol ym maes deintyddiaeth ac orthodonteg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Manteisir ar bob cyfle i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y maes.

Mae i’r wefan hon ddwy adran. Yn yr adran ar gyfer cleifion, bydd modd dod o hyd i’r deintydd Cymraeg ei iaith sydd agosaf atynt, darllen taflenni gwybodaeth am amrywiol driniaethau, a chael cymorth i ddeall a dysgu termau Cymraeg newydd ar gyfer eu hymweliad â’r deintyddd.

Mae’r adran broffesiynol ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes deintyddiaeth ac yn cynnwys newyddion am ddigwyddiadau sydd yn yr arfaeth, hanesion digwyddiadau sydd wedi eu cynnal eisoes, a sawl ffynhonnell arall i gael gwybodaeth.

Adran y Cleifion Adran Deintyddion
Adran Cleifion Ceir gwybodaeth am driniaethau ac am y deintyddion Cymraeg yn eich ardal.
Adran Deintyddion Mae’r adran hon ar gyfer deintyddion ac aelodau’r Gymdeithas Ddeintyddol.