Cyfansoddiad y Gymdeithas Ddeintyddol

  1. Enw’r Gymdeithas fydd Y Gymdeithas Ddeintyddol.
  2. Diben y Gymdeithas fydd rhoi cyfle i ddeintyddion a myfyrwyr deintyddol drafod deintyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
  3. Y Gymraeg fydd iaith swyddogol y Gymdeithas ac unig iaith ei chyfarfodydd a’i chyhoeddiadau.
  4. Bydd aelodaeth gyflawn o’r Gymdeithas yn agored i bob deintydd a dalo’r tâl aelodaeth cymwys ar y pryd.
  5. Bydd aelodaeth gysylltiol o’r Gymdeithas yn agored i fyfyrwyr deintyddol yn rhad ac am ddim a phennir tâl aelodaeth gostyngol i ddeintyddion na allant fynychu cyfarfodydd y Gymdeithas.
  6. Bydd i’r Gymdeithas Gadeirydd, Ysgrifennydd a Thrysorydd a etholir yn y Cyfarfod Blynyddol am dymor o dair blynedd. Gellir eu hail-ethol ar ddiwedd y tymor hwnnw.
  7. Etholir aelodau eraill atynt yn y Cyfarfodydd Blynyddol i wasanaethu ar y Pwyllgor Gwaith. Yn y Cyfarfod Blynyddol cyntaf, etholir un aelod am flwyddyn, yr ail am ddwy flynedd a’r trydydd am dair blynedd ond pan ddaw eu tymhorau i ben bydd yr etholiadau am dymor o dair blynedd.
  8. Etholir y Swyddogion a’r tri aelod arall o’r Pwyllgor Gwaith yn y Cyfarfodydd Blynyddol drwy bleidlais agored.
  9. Rhaid i’r Pwyllgor Gwaith gyfarfod yn ôl y galw, ond o leiaf unwaith y flwyddyn, er mwyn trefnu gweithgareddau’r Gymdeithas. Yn ei gyfarfodydd, rhaid wrth bresenoldeb o leiaf bedwar aelod, gan gynnwys dau swyddog, er sicrhau cworwm.
  10. Gall y Pwyllgor Gwaith gyfethol aelod neu aelodau ato yn ôl y galw, a gall neilltuo is-bwyllgor neu bwyllgorau yn yr un modd.
  11. Gall y Pwyllgor Gwaith lenwi dros dro unrhyw swydd a ddaw’n wag yn ystod y flwyddyn ond rhaid cynnal etholiad ar gyfer y swydd honno yn y Cyfarfod Blynyddol dilynol.
  12. Os yw aelod am gynnig pleidlais o ddiffyg hyder mewn unrhyw swyddog, rhaid iddo sicrhau eilydd a rhoi 28 diwrnod o rybudd ysgrifenedig o’r cyfryw gynnig i’r Swyddogion eraill. Gall y cynnig gael ei drafod wedyn yng nghyfarfodydd nesaf y Gymdeithas, boed hwnnw’n gyfarfod cyffredin neu’n Gyfarfod Blynyddol ond rhaid hysbysu’r aelodau ymlaen llaw a rhaid i ddeuparth yr aelodau sy’n bresennol yn y cyfarfod hwnnw bleidleisio drosto cyn ei fabwysiadu.
  13. Gelwir y Cyfarfod Blynyddol i fan cyfleus ar ddiwrnod ac amser a bennir gan y Pwyllgor Gwaith a’r Agenda ar ei gyfer fydd:
    Ymddiheuriadau
    Cofnodion y Cyfarfod Blynyddol diwethaf
    Materion yn codi o’r cofnodion
    Adroddiad yr Ysgrifennydd
    Adroddiad y Trysorydd
    Argymhellion y Pwyllgor Gwaith
    Ethol Swyddogion yn ôl y galw
    Ethol aelodau’r Pwyllgor Gwaith yn ôl y galw
    Unrhyw fater arall y rhoddwyd 28 diwrnod o rybudd y’i codid
  14. Gall y Swyddogion alw Cyfarfod Cyffredinol Arbennig o’r Gymdeithas i drafod mater neu faterion o bwys a brys o roi 28 diwrnod o rybudd i’r holl aelodau gan nodi yn y rhybudd y mater neu’r materion i’w trafod yn y Cyfarfod Cyffredinol Arbennig hwnnw ac ni ellir trafod unrhyw fater arall heb y rhybudd hwnnw.
  15. Pennir y tâl aelodaeth a’r tâl gostyngol ar gyfer aelodau cysylltiol gan y Cyfarfod Blynyddol. Dilëir aelodaeth unrhyw aelod na thalodd ei dâl aelodaeth priodol o fewn chwe mis i’r Cyfarfod Blynyddol ond gall ailymaelodi wrth dalu’r tâl aelodaeth blynyddol priodol.
  16. Er mwyn newid y Cyfansoddiad hwn, rhaid rhoi 28 diwrnod o rybudd i’r aelodau o’r newid a gynigir, a gellir ei drafod naill ai yng Nghyfarfod Blynyddol y Gymdeithas neu mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig a elwir i’r perwyl.

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol