Dweud Eich Barn

Annwyl Gyd-aelodau,

Bu’r Gymdeithas Ddeintyddol mewn bodolaeth ers 20 mlynedd erbyn hyn.

Ar y cyfan, rydym yn teimlo bod cryn lwyddiant wedi bod hyd yma ond, fel gyda phopeth arall, mae’n rhaid bod yn fodlon newid, gan gadw cefnogaeth a brwdfrydedd yr aelodau.

I’r perwyl hwnnw, hoffem pe gallech ein helpu ni, sef aelodau eich pwyllgor, i lunio rhaglenni a digwyddiadau ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae’n anorfod fod y Gymdeithas yn y Gogledd a’r Gymdeithas yn y De yn tueddu i gynnal ambell gyfarfod eu hunain, gan gydgyfarfod yn y Gynhadledd. Mae’n bryder i ni fod Canol a Gorllewin Cymru yn brin o ddigwyddiadau ac o aelodau.

Patrwm y digwyddiadau yn draddodiadol gennym yw:

  • Cynhadledd Flynyddol, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ar hyd y blynyddoedd. Oes gennych chi syniadau am leoliad? Bydd Cynhadledd yng Nghaerdydd yn boblogaidd bob amser ond a ddylem symud i, er enghraifft, Caerfyrddin neu Abertawe? Beth am ei chynnal yng nghanol Cymru, e.e. Gregynog, Aberystwyth, etc. O ran y ciniawau Gŵyl Dewi, cafwyd llwyddiant yng Nghaerdydd yn 2011 ond ymateb siomedig a gafwyd yn y gogledd (a bu’n rhaid dileu'r trefniant).
  • Cyfarfod ‘gwyddonol’ gyda siaradw(y)r gwadd, ac oriau ôl-raddedig i’w hennill.
  • Taith gerdded. Cafwyd diwrnod gwych yn 2011 ym Môn ond cefnogaeth gan mwyaf gan aelodau’r pwyllgor a’u teuluoedd.
  • Bu amser pan oedd Cinio Nadolig poblogaidd iawn yn cael ei gynnal yn y Gogledd ond eto oherwydd diffyg cefnogaeth ni chynhaliwyd un ers sbel.

A fyddech mor garedig ag anfon gair atom i roi eich barn, ni waeth a fydd yn fyr neu hyd yn oed yn negyddol! Gorau oll, wrth gwrs, pe baech yn gallu cynnig awgrymiadau a syniadau adeiladol – a buddiol i aelodau’r Pwyllgor. Byddem wrth ein bodd yn cael pentwr o syniadau, cynigion i drefnu cyfarfodydd a chynigion ar gyfer testunau darlith ac enwau darlithwyr posibl, etc.

Diolchwn i chi ymlaen llaw am eich cydweithrediad caredig, gan obeithio derbyn eich ymateb cyn gynted ag y bydd hynny’n gyfleus i chi.

Yn gywir,

Pwyllgor y Gymdeithas


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol