Cystadleuaeth Tlws Bryn

Bryn Morris Jones oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas Ddeintyddol ac ef oedd Cadeirydd y Gymdeithas pan fu farw’n frawychus o sydyn fis Chwefror 2012. Er coffadwriaeth amdano, penderfynodd y Gymdeithas Ddeintyddol sefydlu cystadleuaeth fyddai’n cael ei chynnal yn flynyddol yn y gynhadledd. Mae ‘Tlws Bryn Morris Jones’ yn cael ei gyflwyno i’r deintydd ifanc sydd yn rhoi’r cyflwyniad gorau mewn rhan arbennig o’r gynhadledd.

Roedd Bryn bob amser yn gefnogol i bobl ifainc a oedd yn dechrau ar eu gyrfa yn y byd deintyddol ac yntau’n ddeintydd oedd yn gweithio yn y gymuned, trin pobl ifainc oedd ei ddiddordeb pennaf. Priodol, felly, oedd i’r Gymdeithas gynnal cystadleuaeth i bobl ifainc yn benodol. Gyda hynny mewn golwg, penderfynodd aelodau Pwyllgor Gwaith y Gymdeithas y dylai cystadleuaeth Tlws Bryn Morris Jones fod yn agored i fyfyrwyr a deintyddion sydd wedi graddio o fewn tair blynedd i ddyddiad y gynhadledd. Dylai’r cyflwyniad fod yn 15-20 munud o hyd ac yn seiliedig ar brosiect, gwaith ymchwil neu daith. Bydd pob cyflwyniad yn cael ei hasesu a’i marcio am y cyflwyniad ei hun, y cynnwys, y casgliadau, ei gwerth addysgiadol, safon yr iaith a’i gwreiddioldeb. Bydd yr enillydd yn derbyn Tlws arbennig er cof am Bryn yn ogystal â thystysgrif a gwobr ariannol.

Cystadleuaeth Tlws Bryn

Galeri
Cyflwyno Tlws Bryn yng Nghynhadledd 2013 Tlws bryn 2016 Tlws bryn 2016 tlws bryn 2015 tlws bryn 2014
Dogfennau i lawrlwytho

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol