Adroddiadau a Hanesion

 

CYNHADLEDD Y GYMDEITHAS DDEINTYDDL 2016

Dydd Sadwrn, Hydref 8, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd

Ar achlysur dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 25 oed

 

Ddydd Sadwrn, Hydref 8, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd, daeth yn agos i ddeugain o Gynadleddwyr ynghyd i ddathlu carreg filltir nodedig yn hanes y Gymdeithas Ddeintyddol, sef ei phen-blwydd yn 25 oed.

            Pwyllgor y Gymdeithas, dan gadeiryddiaeth Dr T. Rhys Davies, oedd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r Gynhadledd a chafwyd cymorth sawl aelod i ysgwyddo elfennau o’r paratoadau, gan gynnwys trefnu’r gwesty, y siaradwyr, a’r rhaglen yn gyffredinol.

            Roedd dwy ddarlith wedi eu trefnu ar gyfer y bore a chan bwysiced y maes, gofynnwyd i Dr Cellan Thomas draddodi’r naill ddarlith a’r llall, gydag egwyl am banad rhwng y ddwy. Cydnabyddir Cellan yn awdurdod yn ei faes, yn rhinwedd ei swydd fel Ymgynghorydd Macsilo Wynebol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, yn flaengar a blaenllaw mewn triniaethau a thechnegau. Testun y ddarlith gyntaf oedd Llawdriniaeth Macsilo Wynebol yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, o’r diagnosis i’r driniaeth, gan drafod y datblygiadau diweddaraf’. Yn ei ail gyflwyniad, ei destun oedd ‘Camdyfiannau, anafodau cyn-ganseraidd ac anffurfiadau malaen a allai fod yn beryglus’. Nid oes amheuaeth na fu ei gyflwyniadau manwl a phwrpasol o fudd i bawb oedd bresennol.

Teyrnged ragorol T. Rhys Davies i’r diweddar ddeintydd amryddawn a phoblogaidd, Robert Jones, Bangor, a ddilynodd. Doedd Rhys ei hun ddim yn gallu bod yn bresennol oherwydd profedigaeth yn y teulu rai dyddiau yng nghynt ac fe gyflwynwyd ei deyrnged gan Dr J. Elwyn Hughes. Caiff y deyrnged ei chyhoeddi mewn man arall ar wefan y Gymdeithas.

            Daeth sesiynau’r bore i ben gyda’r Cyfarfod Blynyddol a bydd Elen, Ysgrifennydd ddiwyd ac ymroddgar y Gymdeithas, yn anfon atoch gofnodion y cyfarfod hwnnw yn y man. Mae’n werth nodi un neu ddau o faterion yn y cyfamser:

 

  1. Ni lwyddwyd i godi Cadeirydd newydd yn dilyn gwaith da Stephen Keen yn y swydd y llynedd ond roeddem yn falch o gael cyhoeddi fod T. Rhys Davies sydd eisoes yn llenwi’r bwlch am y tro yn fodlon parhau’n Gadeirydd nes y gellir penodi rhywun arall cyn gynted ag y bo modd.
  2. Mae gennym le i ymfalchïo bod tri aelod wedi gwirfoddoli i fod yn aelodau o’r Pwyllgor.
  3. Gwnaed apêl gan ein gwefeistr newydd, Prysor Aled, am gyfraniadau i’w cynnwys ar y wefan – bydd croeso i unrhyw fath o ddeunydd a all fod o ddiddordeb i aelodau’r Gymdeithas – lluniau, ysgrifau, adroddiadau, adolygiadau, etc.
  4. Gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno syniadau, drwy’r Ysgrifennydd, ar gyfer Gwobrau’r Gymraeg mewn Addysg Iechyd. Yn ddelfrydol, byddid yn hoffi gallu cynhyrchu deunydd(iau) a fyddai’n dangos perthynas dda a buddiol rhwng deintyddion a’u cleifion.
  5. Calendr Gweithgareddau 2017. Dyma’r rhaglen fel y saif ar hyn o bryd – daw cadarnhad yn y man:
  • Cinio Gŵyl Dewi yn Nant yr Odyn, Llangristiolus, naill ai ar Chwefror 25 neu Fawrth 4, (i’w gadarnhau ar ôl cytuno ar siaradwr);
  • Darlith gan Gareth Davies yng Ngwesty'r Imperial, Llandudno, Ebrill 5, 2017, am 7.00 o’r gloch;
  • Taith Gerdded, Gorffennaf 17, 2017 – manylion i ddilyn.

 

Ar ôl cinio, cafodd y cynadleddwyr eu difyrru gan anerchiad diddorol y gŵr gwadd, Huw Edwards – hon oedd Darlith Goffa T. Arfon Williams, un o sefydlwyr y Gymdeithas Ddeintyddol. Soniodd am ei waith ar y teledu, yn gyflwynydd newyddion a hefyd yn ymddangos ar raglenni dogfen (fel yr un y mae newydd ei recordio am hanes trychineb Aber-fan ym 1966). Ein braint oedd gwrando ar Gymro Cymraeg sydd wedi dringo i uchelfannau byd y cyfryngau.

Yna cafwyd egwyl i ddathlu pen-blwydd y Gymdeithas gyda llymaid o Brosecco a thamaid o gacan pen-blwydd a wnaed gan fam yng nghyfraith Elen, ein Hysgrifennydd, gydag adloniant cefndirol ar y delyn gan Llywelyn Telyn, sef Llywelyn Ifan Jones.

Yn dilyn hynny, Llywydd y Gymdeithas, William J. Parry, a gyflwynodd, drwy gyfrwng stori a llun, hanes sefydlu’r Gymdeithas Ddeintyddol chwarter canrif yn ôl – cyflwyniad cynhwysfawr a diddorol, dan y teitl, ‘Atgofion Chwarter Canrif y Gymdeithas Ddeintyddol’.  Da o beth fyddai cael cynnwys y ddarlith – a’r lluniau – ar y wefan hon yn y dyfodol agos.

Cystadleuaeth Tlws Coffa Bryn Morris Jones oedd yn cloi’r Gynhadledd a chafwyd cyflwyniadau difyr a ffres gan Meilir Evans (am ei brofiadau deintyddol yn Tonga) a chan Euros Jones (ar y testun ‘Canser ar y laryncs’). Cyflwynwyd Tlws Bryn i’r ddau am gymryd rhan ac am ehangu ein gorwelion ond yr un a haeddodd Dystysgrif yn ychwanegol oedd Euros.

 

J. Elwyn Hughes 

CYNHADLEDD Y GYMDEITHAS DDEINTYDDL 2016

Dydd Sadwrn, Hydref 8, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd

Ar achlysur dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 25 oed

 

*          *          *

 

Yn absenoldeb Rhys, o ganlyniad i’r brofedigaeth a ddaeth i ran Nesta, ei briod, o golli ei chwaer mor ddisymwth, annisgwyl a chynamserol, Gofynnodd Rhys i Dr J. Elwyn Hughes gyflwyno cynnwys ei deyrnged i Robert Jones yn ei le. Cynhwysir isod y deyrnged fel yr ysgrfiennwyd hi gan Rhys.

 

*          *          *

 

ROBERT JONES

Teyrnged Dr T. Rhys Davies

Cafodd Robat Jones ei fagu’n fab i chwarelwr ym mhentref bychan y Fachwen, uwchlaw Deiniolen, yn Eryri. Wedi cwblhau ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, aeth ymlaen i astudio deintyddiaeth yn Lerpwl a graddio ym 1973.

 

Ar ôl treulio cyfnod yn ddeintydd yn Coventry, daeth yn ôl i Gymru a sefydlu practis ym Mangor.

 

Cefais y fraint a’r plesar o adnabod Robat a chydweithio efo fo, ar ôl i ni gyfarfod gyntaf ddiwedd y saith degau.

 

Mi fûm yn gweithio yn ei ddeintyddfa yn Ffordd y Coleg, Bangor, am oddeutu tair blynedd, a dw i’n dal i gofio i’r adeg honno fod yn gyfnod hapus iawn i mi, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mi hoffwn bwysleisio hefyd fy mod wedi gwerthfawrogi’r cyfle bryd hynny i ddod i adnabod Eirian, gwraig Rob, a’u dwy ferch, Alison a Jennifer.

 

Mae’n wir dweud i mi ddysgu cymaint mwy gan Rob nag a wneuthum yn y ddwy ddeintyddfa arall y bûm yn gweithio ynddyn nhw cyn ymuno â Robat. Ac mi hoffwn atgoffa pawb nad oedd, yn y cyfnod hwnnw, mo’r fath beth â Hyfforddiant Galwedigaethol i ddeintyddion.

 

O edrych yn ôl, mae’n syndod meddwl pa mor frawychus oedd pethau pan allai deintydd yn y cyfnod hwnnw fynd ati i agor practis yn syth bin ar ôl graddio a bod yn gymwys i roi anaesthetig cyffredinol yn y gadair yn ei ddeintyddfa!

 

Ni fyddai dweud bod Rob yn gallu troi ei law at bob math o bethau yn deud y gwir i gyd amdano fo nac yn gwneud cyfiawnder â’i amryfal alluoedd. Yn wir, datblygodd i fod yn feistr ar sawl crefft yn ogystal â deintyddiaeth.

 

A throi i ddechra at ddeintyddiaeth. Mae’n briodol dweud iddo ennill ei blwyf yn ei faes drwy Ogledd Cymru gyfan yn fuan iawn ar ôl agor ei bractis ym Mangor yng nghanol y saith degau. Daeth yn uchel ei barch nid yn unig ar sail safon dechnegol ei waith ond hefyd fel cyfaill i lawer ac aelod o sawl pwyllgor deintyddol. Mi fu’n weithgar iawn gyda’r BDA, yn cadeirio pwyllgora ac yn aelod selog o gangen y Gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru. Cynrychiolodd ddeintyddion ar y GDSC yn Llundain, y WGDSC yng Nghaerdydd ac ar yr LDC yng Ngwynedd.

 

Daeth hefyd yn llefarydd ar ein rhan ni, Y Gymdeithas Ddeintyddol, a’r BDA, a chlywid ei lais cyfarwydd yn aml ar y radio a byddai’n ymddangos hefyd ar y teledu o bryd i’w gilydd. Byddai bob amser yn cyflawni ei ddyletswydd yn gwbl broffesiynol a difyr.

 

Un diddordeb arbennig gan Robat, un y bûm yn dyst cynnar ohono, oedd hud a lledrith neu gonsurio. Dechreuodd hynny’n ddigon diniwed, trwy gipio anrheg Nadolig o ddwylo un o’i blant a gwneud iddo ddiflannu o dan eu trwynau. Dyna fu’r man cychwyn digon syml ond ’fu Robat ddim yn hir iawn cyn datblygu meistrolaeth lwyr a chyflawn ar y gamp yn gyffredinol. Yn wir, cyrhaeddodd safon mor broffesiynol nes cael ei dderbyn yn aelod o’r Magic Circle a chael hefyd ei gyfres ei hun ar S4C. Mi fydd ambell un sydd yma heddiw yn cofio fel y byddai ambell gyfarfod a chynhadledd ddeintyddol yn cael ei bywiogi gan Rob a’i gastiau!

 

Bu Robat yn aelod o'r Clwb Rotary ym Mangor am gyfnod maith o dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn adnabyddus fel un garw a llwyddiannus am godi arian at achosion da drwy gynnal ambell gabaret neu redeg ocsiwn.

 

Mae’n rhaid crybwyll rŵan y cyfnod pan nad oedd modd yn y byd i ddenu Rob i hedfan gan gymaint oedd ei ofn o fentro mewn awyren i’r entrychion. Ond daeth tro ar fyd pan gafodd o ‘hediad prawf’ yn anrheg. Mi fu’i droëdigaeth yn gwbl ysgytwol: cyn pen dim, roedd o nid yn unig wedi ennill ei drwydded peilot ond roedd o hefyd wedi cael ei godi’n Llywydd Clwb Hedfan Mona ac yna’n un o’r Ymddiriedolwyr. Hedfanodd yn helaeth o gwmpas gwledydd Prydain a thros Ewrop hefyd.

 

Yn ogystal â’r hwyl a gâi yn yr awyr, câi lawer o bleser, hefyd, yn hwylio ar y môr, ac yn mordwyo o gwmpas arfodir Cymru yn fynych. At hynny, manteisiodd ar y cyfle i ddatblygu ei sgiliau mewn sgwba blymio a thynnu lluniau ochr yn ochr â hynny yn ystod ei anturiaethau.

 

Ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd arlunio, cyfeirio ralïau ceir, a cheir clasurol. Bu’n athro Ysgol Sul … yn wir, roedd rhestr diddordebau’r gŵr amryddawn ac amlochrog hwn yn helaeth ac amrywiol iawn.

 

A chofiwn fod Rob yn dilyn ei holl ddiddordebau gydag afiaith ac ymroddiad, bob amser yn awyddus i gyfrannu, gan arwain drwy esiampl yn ddi-feth. Ar y naill law, roedd yn berson diymhongar ond eto mor barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu gyda golwg ar gyflawni.

 

Er ei holl ddiddordebau a’i ddoniau, ei brif ymroddiad oedd ei ffyddlondeb i’w deulu, ei wraig, Eirian a’r genod, Alison a Jennifer, a’u plant nhw – roedd gynno fo bedwar o wyrion – ac yntau’n meddwl y byd ohonyn nhw bob yr un.

 

Buom yn hynod ffodus fel Cymdeithas i fod wedi cael y fraint a’r pleser o’i adnabod a mwynhau ei gwmni o'r dyddiau cynnar.

 

Gresyn nad ydi o yma efo ni heddiw, ond diolch amdano.

 


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol