Robert Jones

Teyrnged  gan Dr T. Rhys Davies

Cafodd Robat Jones ei fagu’n fab i chwarelwr ym mhentref bychan y Fachwen, uwchlaw Deiniolen, yn Eryri. Wedi cwblhau ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, aeth ymlaen i astudio deintyddiaeth yn Lerpwl a graddio ym 1973.

 Ar ôl treulio cyfnod yn ddeintydd yn Coventry, daeth yn ôl i Gymru a sefydlu practis ym Mangor.

 Cefais y fraint a’r plesar o adnabod Robat a chydweithio efo fo, ar ôl i ni gyfarfod gyntaf ddiwedd y saith degau.

 Mi fûm yn gweithio yn ei ddeintyddfa yn Ffordd y Coleg, Bangor, am oddeutu tair blynedd, a dw i’n dal i gofio i’r adeg honno fod yn gyfnod hapus iawn i mi, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mi hoffwn bwysleisio hefyd fy mod wedi gwerthfawrogi’r cyfle bryd hynny i ddod i adnabod Eirian, gwraig Rob, a’u dwy ferch, Alison a Jennifer.

 Mae’n wir dweud i mi ddysgu cymaint mwy gan Rob nag a wneuthum yn y ddwy ddeintyddfa arall y bûm yn gweithio ynddyn nhw cyn ymuno â Robat. Ac mi hoffwn atgoffa pawb nad oedd, yn y cyfnod hwnnw, mo’r fath beth â Hyfforddiant Galwedigaethol i ddeintyddion.

 O edrych yn ôl, mae’n syndod meddwl pa mor frawychus oedd pethau pan allai deintydd yn y cyfnod hwnnw fynd ati i agor practis yn syth bin ar ôl graddio a bod yn gymwys i roi anaesthetig cyffredinol yn y gadair yn ei ddeintyddfa!

 Ni fyddai dweud bod Rob yn gallu troi ei law at bob math o bethau yn deud y gwir i gyd amdano fo nac yn gwneud cyfiawnder â’i amryfal alluoedd. Yn wir, datblygodd i fod yn feistr ar sawl crefft yn ogystal â deintyddiaeth.

 A throi i ddechra at ddeintyddiaeth. Mae’n briodol dweud iddo ennill ei blwyf yn ei faes drwy Ogledd Cymru gyfan yn fuan iawn ar ôl agor ei bractis ym Mangor yng nghanol y saith degau. Daeth yn uchel ei barch nid yn unig ar sail safon dechnegol ei waith ond hefyd fel cyfaill i lawer ac aelod o sawl pwyllgor deintyddol. Mi fu’n weithgar iawn gyda’r BDA, yn cadeirio pwyllgora ac yn aelod selog o gangen y Gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru. Cynrychiolodd ddeintyddion ar y GDSC yn Llundain, y WGDSC yng Nghaerdydd ac ar yr LDC yng Ngwynedd.

 Daeth hefyd yn llefarydd ar ein rhan ni, Y Gymdeithas Ddeintyddol, a’r BDA, a chlywid ei lais cyfarwydd yn aml ar y radio a byddai’n ymddangos hefyd ar y teledu o bryd i’w gilydd. Byddai bob amser yn cyflawni ei ddyletswydd yn gwbl broffesiynol a difyr.

 Un diddordeb arbennig gan Robat, un y bûm yn dyst cynnar ohono, oedd hud a lledrith neu gonsurio. Dechreuodd hynny’n ddigon diniwed, trwy gipio anrheg Nadolig o ddwylo un o’i blant a gwneud iddo ddiflannu o dan eu trwynau. Dyna fu’r man cychwyn digon syml ond ’fu Robat ddim yn hir iawn cyn datblygu meistrolaeth lwyr a chyflawn ar y gamp yn gyffredinol. Yn wir, cyrhaeddodd safon mor broffesiynol nes cael ei dderbyn yn aelod o’r Magic Circle a chael hefyd ei gyfres ei hun ar S4C. Mi fydd ambell un sydd yma heddiw yn cofio fel y byddai ambell gyfarfod a chynhadledd ddeintyddol yn cael ei bywiogi gan Rob a’i gastiau!

 Bu Robat yn aelod o'r Clwb Rotary ym Mangor am gyfnod maith o dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn adnabyddus fel un garw a llwyddiannus am godi arian at achosion da drwy gynnal ambell gabaret neu redeg ocsiwn.

 Mae’n rhaid crybwyll rŵan y cyfnod pan nad oedd modd yn y byd i ddenu Rob i hedfan gan gymaint oedd ei ofn o fentro mewn awyren i’r entrychion. Ond daeth tro ar fyd pan gafodd o ‘hediad prawf’ yn anrheg. Mi fu’i droëdigaeth yn gwbl ysgytwol: cyn pen dim, roedd o nid yn unig wedi ennill ei drwydded peilot ond roedd o hefyd wedi cael ei godi’n Llywydd Clwb Hedfan Mona ac yna’n un o’r Ymddiriedolwyr. Hedfanodd yn helaeth o gwmpas gwledydd Prydain a thros Ewrop hefyd.

 Yn ogystal â’r hwyl a gâi yn yr awyr, câi lawer o bleser, hefyd, yn hwylio ar y môr, ac yn mordwyo o gwmpas arfodir Cymru yn fynych. At hynny, manteisiodd ar y cyfle i ddatblygu ei sgiliau mewn sgwba blymio a thynnu lluniau ochr yn ochr â hynny yn ystod ei anturiaethau.

 Ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd arlunio, cyfeirio ralïau ceir, a cheir clasurol. Bu’n athro Ysgol Sul … yn wir, roedd rhestr diddordebau’r gŵr amryddawn ac amlochrog hwn yn helaeth ac amrywiol iawn.

 A chofiwn fod Rob yn dilyn ei holl ddiddordebau gydag afiaith ac ymroddiad, bob amser yn awyddus i gyfrannu, gan arwain drwy esiampl yn ddi-feth. Ar y naill law, roedd yn berson diymhongar ond eto mor barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu gyda golwg ar gyflawni.

 Er ei holl ddiddordebau a’i ddoniau, ei brif ymroddiad oedd ei ffyddlondeb i’w deulu, ei wraig, Eirian a’r genod, Alison a Jennifer, a’u plant nhw – roedd gynno fo bedwar o wyrion – ac yntau’n meddwl y byd ohonyn nhw bob yr un.

 Buom yn hynod ffodus fel Cymdeithas i fod wedi cael y fraint a’r pleser o’i adnabod a mwynhau ei gwmni o'r dyddiau cynnar.

 Gresyn nad ydi o yma efo ni heddiw, ond diolch amdano.

 


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol