Rhaglen Eleni

 

Noson Blasu Gwin

21ain Ionawr 2017

Lleoliad: Canolfan Reolaeth, Bangor

Noson Caws a Gwin, Canolfan Rheoli, Bangor .

 

Profodd yr abwyd o noson o flasu caws yn hynod ddeniadol i griw o ddeintyddion - efallai fod y ffaith fod blasu gwin yn rhan o'r noson wedi bod yn rhan o'r atyniad  hefyd?

Ta waeth cafwd noson hwyliog ac addysgiadol iawn, tybed a ddylem wedi gofyn am 3 awr o addysg ol raddedig (CPD)?

Beth a ddysgwyd?

Os am yfed gwin, sicrhau ei fod o ansawdd da.

Cofio yfed digon o ddwr yn ogystal a chynnyrch y grawnwin.

Sicrhau fod Justin ar gael efo'i "swigan lysh" (sef y prawf breathalyser).

Gwersi perthnasol a dilys iawn i fywyd fel deintydd bid siwr.

Diolch i Cartin a Tristan am y syniad a'r trefnu, mae cyfeillgarwch a chymdeithasu yn ran pwysig o aelodaeth o'r Gymdeithas. 

Edrychwn ymlaen at y  Noson Gwyl Dewi ac wrth gwrs holl weithgareddau Y Gymdeithas.


Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

  • gwin1
  • gwin2
  • gwin3
  • gwin4
  • gwin5
  • gwin6
  • gwin7
  • gwin8
  • gwin9
  • gwin10



    Cinio Gwyl Ddewi 2017

    4ydd Mawrth 2017 19.30

    Lleoliad: Nant yr Odyn, Llangristiolus

    Cawsom Noson ddifyr yng ngwmni Mr Richard Neale o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bu'n egluro pam y sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth ac yn rhestru nifer o ardaloedd yng Ngymru sydd o dan ei rheolaeth. Bu'm yn dysgu am engreifftiau cynnar o roi eiddo preifat i'r ymddiriedolaeth er mwyn gwarchod harddwch naturiol tirwedd cymru rhag datblygiadau cyfoes. Un o'r rhain oedd darn o lechwedd yn y Bermo a roddwyd i'r Ymddiriedolaeth gan Fanny Talbot dros ganrif yn ol.

    Erbyn hyn mae 157 milltir o arfordir cymru yn berchen i'r Ymddiriedolaeth. Bu Richard yn adrodd hanes ei daith forwrol o amgylch arfordir cymru yn 2016 gan deithio o Lanau Dyfrdwy i Fae Caerdydd, gan ymweld a'r holl safleoedd arfordirol at ei ffordd (yn ogystal a gweld ambell i ddolffin)!


    Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

    • gwyl ddewi 1
    • gwyl ddewi 2
    • gwyl ddewi 3



      Darlith y Gwanwyn 2017

      5ed Ebrill 2017 I'w Gadarnhau

      Lleoliad: Gwesty'r Imperial Llandudno

      Cyfarfod gwyddonol y Gymdeithas, Ebrill 2017, Gwesty'r imperial, Llandudno.

      "Hynt a helynt yn y drinfa dros ddeugain mlynedd a cwis i ddilyn."

       

      Criw dethol a deallus  tu hwnt gyfarfu i wrando ar y sgwrs hynod ddiddorol a draddodwyd gan Gareth Davies ar noson braf ond oer yn Llandudno.

      Cawsom bryd blasus ac ymgom hwyliog cyn y ddarlith.

      Clywsom am hanes gyrfa Gareth, o'r dyddiau cynnar yn Lerpwl a Manceinion drwy ei amser mewn practis yn Rhuddlan hyd at y presennol yn ddeintydd cymuned a thiwtor ol raddedig yn Wrecsam.

      Bu Gareth yn onest a gwylaidd iawn yn adrodd mwy am y troeon trwstan nac am y llawer o lwyddiant a gafodd hyd yma yn ei yrfa. Cadarnhaodd ei sgwrs cymaint mae y byd wedi newid, yn y gorffenol cymharol ysgafn oedd y goruchwyliaeth, ond efallai mwy o hwyl i gael ar wneud y gwaith?

      Dilynodd Gareth efo cwis i'n goleuo am yr arwyddion o gancr o fewn ac o gwmpas y geg.

      Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o fod yn gyson wyliadwrus am arwyddion buan o'r newidiadau canseraidd, a tynnu ein sylw fod y cyflyrau ar gynnydd.

      Cyfuniad felly o'r llon a'r lleddf, ond yn noson ddifyr a gwerth chweil.

      Diolch i Gareth am fod mor barod unwaith eto i gyfranu, ac i Elen a'r gwesty am y trefniadau.


      Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

      • llun
      • llun2



        Taith Gerdded y Gymdeithas Ddeintyddol

        17eg Mehefin 2017

        Lleoliad: Y Gogarth, Llandudno

         

        Trefnwyd tywydd delfrydol ar gyfer y daith gerdded eleni!

        Cyfarfu 11 ohonom ym maes parcio Ffordd Maelgwn, Llandudno, ac oddi yno ymlwybro i fyny’r Gogarth. Gwaith caled am yr awr gyntaf gan godi o lefel y môr i tua 200 medr ar y ‘Llwybr Igam Ogam’ troellog a serth.

        Cafwyd seibiant haeddiannol ger y copa am banad/hufen iâ, etc. (a chyfle i diolch i William am ei haelioni). Yna cerdded o gwmpas y trwyn, heibio‘r Eglwys ac yna i lawr yn ôl i dref Llandudno a chyrraedd yn ôl wrth ochr y ganolfan sgïo.

        Cawsom olygfeydd hyfryd trwy gydol y daith dair awr: Eryri, Ynys Môn ac Ynys Seiriol, Traeth Lafan, ac i lawr i gyfeiriad Llanduno a draw i tuag at Lerpwl.

        Yn ein disgwyl yn y bwyty (ardderchog), ’Seahorse’, ar Rodfa'r Eglwys, 'roedd un neu ddau nad oedd ddim wedi cerdded ond da iawn oedd cael eu cwmni. Mwynhawyd gwledd hynod flasus, yn cynnwys digon o ddewis o fwyd o'r mor.

        Bu’n ddiwrnod cofiadwy. Diolch i bawb am eu cwmni ac i'r plant am gerdded mor barod a bywiogi'r diwrnod.


        Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

        • 1
        • 2
        • 3
        • 4
        • 5
        • 6
        • 7
        • 8



          Eisteddfod Genedlaethol Bodedern 2017

          4ydd Awst i 4ydd Awst 2017

          Lleoliad: Bodedern

          Eisteddfod Genedlaethol Mon 2017.

           

          Cafodd y Gymdeithas y cyfle i rannu safle gyda Betsi Cadwaladr ar Faes yr Eisteddfod eleni ar y dyddiau Llun a Mawrth.

           

          Er y dilyw ar y nos Sul llwyddwyd gael popeth yn barod ben bore Llun yng nghwmni criw Cynllun Gwen. Ar ol dechra eithaf araf deg bu cryn brysurdeb, profodd holiadur a chwis Catrin yn llwyddiant ysgubol - tybed oedd y gwobrau o frwshus dannedd trydan yn abwyd?

           

          Ni fu gwerthiant helaeth ar y Geiriadur ond llwyddais i werthu un i Carwyn Jones! Efallai mai ansawdd ddim nifer y prynwyr sydd yn cyfrif? 'Roedd hyn ar y dydd Llun, cyn y cyhoeddiad am arian newydd (?) i ddeintyddiaeth, ysywaeth wedi'i anelu at ond rhan o Gymru (sef y De wrth reswm).

          Diolch i Catrin,Elen, Elsbeth a Stephen am ei cymorth parod ac am gyfrannu at lwyddiant ein ymddanghosiad.

          Diolch hefyd i Elaine Topps, Nest Jones a Sarah Archer o Cynllun Gwen am gludo ein geriach i'r Maes ac am ei cwmni; Sandra Sandham, Sylvia Thomas a Sian Chelton o Adran Ddeintyddol yr Awdurdod Iechyd am y posteri, taflenni etc


          Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

          • steddfod1
          • steddfod2



            Cynhadledd y Gymdeithas Ddeintyddol 2017

            7fed Hydref 2017 09.00

            Lleoliad: Gwesty'r Hilton, Lerpwl

            Cynhadledd 2017

            Gwesty'r Hilton, Lerpwl

            Cyfarfu criw deallus a hwyliog yn Lerpwl i fwynhau chweched Cynhadledd ar hugain y Gymdeithas Ddeintyddol.

            Gwaetha’r modd, roedd tipyn o gwmwl drosom eleni oherwydd y newydd trist a ddaeth i law ychydig dyddiau ynghynt am farwolaeth Meryl, gwraig Siôn Griffiths. Byddai Meryl yn gyson wrth ochr Siôn a chawsom y fraint a'r pleser o ddod i'w hadnabod yn ystod sawl Cynhadledd yn y gorffennol. Estynnwyd cydymdeimlad aelodau’r Gymdeithas i gyd â Siôn a'r teulu.

            Croesawyd pawb gan Geraint Buse, Llywydd y bore. Y siaradwr cyntaf oedd y niwrolegydd Dr Rhys Davies a phrofodd i fod yn feistr ar ei bwnc ac yn siaradwr ardderchog. Ei destun oedd ‘Dementia’, a rhoddwyd esboniad clir a chroyw o'r cyflyrau perthnasol a’r dylanwad a geid ar waith y deintydd.

            Cafwyd cyfle yn ystod amser panad i sgwrsio â chynrychiolwyr Denplan a Heraeus Kulzer, dau gwmni a noddodd y Gynhadledd yn hael iawn.

            Y nesaf i siarad oedd Dr John Williams. Traddododd ddarlith ddifyr am hanes a phersonaliaethau a fu’n gysylltiedig â meddygaeth a deintyddiaeth yn Lerpwl dros y canrifoedd. Roedd yn dda clywed am arloeswyr blaenllaw o dras Gymreig a oedd, yn eu dydd, yn gewri rhyngwladol yn eu priod feysydd.

            Yn ystod y Cyfarfod Blynyddol, etholwyd Quentin Jones yn Gadeirydd a Sioned Davie yn aelod newydd o'r pwyllgor. Diolchwyd i Justin ac Elen am eu gwaith ac i aelodau'r pwyllgor, gan gynnwys Gareth Rhun, Catrin Tomos a Lowri Angharad sydd yn crwydro am sbel. Cafwyd trafodaeth am bolisi’r Ysgol Ddeintyddol yng Nghaerdydd o ran dethol myfyrwyr. Penderfynwyd dilyn y mater ymhellach a gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu ag Aelodau’r Cynulliad i fynegi ein pryder.

            Wedi cinio blasus ac amser i atgyfnerthu, cymerodd Linda Tomos yr awenau fel Llywydd y prynhawn. Estynnodd groeso i'r Barnwr Nic Pari a chafwyd sgwrs ddiddorol a hwyliog ganddo am ei brofiadau ar y Fainc ac fel sylwebydd pêl-droed. Bu’r Gymdeithas yn ffodus dros y blynyddoedd o gael llawer o siaradwyr galluog i draddodi Darlith Goffa Arfon, ac mae’n braf cael dweud bod y safon wedi ei chynnal yn anrhyddeddus eto eleni.

            Cafwyd dwy ddarlith dra gwahanol ond safonol iawn yn y gystadleuaeth am Dlws Bryn. Teimlwyd bod y ddau gystadleuydd yn deilwng ond dewiswyd Sioned Davie yn fuddugol o drwch blewyn. Diolch iddi hi a Huw Ifan am gadw’r gystadleuaeth yn fyw a chynnal safon uchel y gorffennol.

            Cawsom Gynhadledd hapus a llwyddiannus ac yn awr cawn edrych ymlaen yn eiddgar i gyfarfod eto yn Abertawe y flwyddyn nesaf.


            Cliciwch isod i weld lluniau'r digwyddiad hwn.

            • cyn1
            • cyn2
            • cyn3



              Archif

              Mae manylion am ddigwyddiadau’r blynyddoedd blaenorol ar gael drwy glicio'r flwyddyn isod:


              © 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol