T Arfon Williams

1935-1998

Un o Dreherbert, Cwm Rhondda, oedd T. Arfon Williams ac fe dderbyniodd ei hyfforddiant proffesiynol yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain.

Pan oedd yn ddeintydd ym Mhenmaen-mawr, cyfarfu ag Einir Wynne Jones – 'gem o wraig ddigymar', ys dywedodd Arfon amdani.

Gadawodd Benmaen-mawr i ddychwelyd i’w fro enedigol fel Swyddog Deintyddol yn y Rhondda ac wedyn yn Abertawe. Yna, ym 1970, cafodd ei benodi’n Swyddog Deintyddol yn y Swyddfa Gymreig, Caerdydd, ac ym 1985-86, cafodd ei godi’n Brif Swyddog Deintyddol dros Gymru.

Ar ei ymddeoliad, symud i’r Wern, Caeathro, ger Caernarfon, a dyma gyfnod ei weithgarwch mawr gyda’r Gymdeithas Ddeintyddol y bu â rhan yn ei sefydlu ym 1991. Ef oedd ei Chadeirydd cyntaf a bu’n ysbrydoliaeth o ran defnyddio’r iaith Gymraeg yn ei waith.

Mae’n siŵr y byddai wedi bod yn falch iawn o weld yr hedyn a blannodd yn dwyn ffrwyth ar ffurf y Geiriadur Deintyddiaeth.

Ond roedd Arfon yn fwy na dim ond deintydd – er mor llwyddiannus yn ei faes. Roedd o hefyd yn Gristion pybyr ac yn fardd.

Ym 1974, dechreuodd ymddiddori yn y gynghanedd a datblygodd i fod yn feistr arni. Daeth yn englynwr adnabyddus – yn arbennig ar gorn yr englyn un-frawddeg – englyn Arfonaidd. Bu’n aelod blaenllaw o’r Gymdeithas Gerdd Dafod a chyfrannwr rheolaidd i’w chylchgrawn Barddas. Enillodd wobrau sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd Englynion Arfon (1978), Annus Mirabilis (1984), Cerddi Arfon (1996), ac Ynglŷn â Chrefft Englyna (Gol.) (1981). Fe olygwyd Englynion a Cherddi T. Arfon Williams : Y Casgliad Cyflawn gan Alan Llwyd yn 2003.

Un o’r cerddi olaf a ysgrifennodd Arfon – a ffefryn gan ei briod, Einir, a’r teulu – oedd yr englyn a luniodd i’r Olwyn Ddŵr ar dir y Wern – ‘englyn iasol,’ yn ôl Dafydd Islwyn, ‘sy’n ein hannog i edrych yn ddyfnach ar ein profiadau, i edrych arnynt o ongl gwbl newydd, ac englyn sy’n cadarnhau nad oes i ni yma ddinas barhaus’. Dyma’r englyn:

Gyda’r gaea’n troi’n wanwyn rhoi yn hael
          a wna’r nant bob galwyn
    o’i dŵr hi, a gweld yr wy’
    na reolaf yr olwyn.

Yn ei Gyflwyniad i Englynion a Cherddi T. Arfon Wlliams – Y Casgliad Cyflawn, dywed y Prifardd Emyr Lewis fod yr englyn hwn ‘yn crisialu athroniaeth, a phersonoliaeth dawel, obeithlon a dirodres Arfon Williams’.

Mae’n briodol iawn bod y Gymdeithas Ddeintyddol wedi sefydlu Darlith Goffa Flynyddol er cof am T. Arfon Williams.

T Arfon Williams

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol