Bryn Morris Jones

1957- 2012

gan Dr J. Elwyn Hughes

Yn Ysbyty Chatsworth House ym Mhrestatyn y ganed Bryn ar Fai 16 1957, yn ail fab i Ena a Dafydd Morris Jones (a elwid fynychaf yn ‘Eic’) ac yn frawd i Gareth, a’r teulu’n byw yn Abergele ar y pryd. Daethai trydydd brawd i’r byd, sef Gwyn, erbyn i’r teulu symud i Dywyn yn yr hen Sir Feirionnydd.

Cafodd Bryn ei addysg gynnar yn Ysgol Pen-y-Bryn, Tywyn, a pharhau’i addysg gynradd wedyn yn Ysgol St Paul, Bangor, wedi i’r teulu symud i’r ardal honno, lle ganed ei chwaer, Bethan Catrin.

Pan ddaeth yn amser i Bryn fynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 1968, i Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, y trodd ei wyneb, lle’r oedd sicrwydd y câi yntau, fel ei frawd, Gareth, o’i flaen (a Gwyn ar ei ôl), addysg mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig. Tra bu yno, ystyriwyd ef yn fachgen tawel, gweithgar a chydwybodol, bob amser yn gwneud ei orau, ac yn gwrtais a bonheddig ei ddull. Pan gyrhaeddodd y Chweched Dosbarth, dewisodd astudio pynciau gwyddonol, gan lwyddo yn ei arholiadau Safon A a chael ei dderbyn, â’i fryd ar fod yn ddeintydd, i Ysgol Feddygaeth a Deintyddiaeth Genedlaethol Cymru (fel yr adwaenid hi ar y pryd) yng Nghaerdydd, lle graddiodd ym 1982.

Wedi ennill y cymwyster angenrheidiol ar derfyn ei gwrs, treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn gweithio ym Mhractis Deintyddol Cyffredinol Dr Robert Jones ym Mangor. Yna, ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd Cymunedol, gan wneud cyfraniad sylweddol o ran darparu gwasanaeth yn y gymuned leol yn ardal Llanfairpwllgwyngyll, lle treuliodd ugain mlynedd yn ddeintydd poblogaidd ac uchel ei barch. Anaestheteg ac epidemioleg oedd ei brif ddiddordebau a chafodd gyfle i gydweithio ym maes anaestheteg yn Ysbyty Gwynedd.

Yn ogystal â bod yn ddeintydd ymroddgar a medrus wrth ei waith, roedd nifer o nodweddion pwysig eraill yn perthyn i Bryn. Roedd yn ŵr amlochrog ei ddoniau ac eang ei ddiddordebau. Mwynhâi gerdded, nofio a hwylio, cadw’n heini’n gyffredinol, gwylio rygbi, heb anghofio’r pleser digymysg a gâi nid yn unig wrth sôn am geir ond hefyd wrth eu trin a’u trwsio. At hynny, roedd yn grefftwr cartref penigamp. Gallai droi ei law at drwsio unrhyw beth ‘a gwneud job iawn ohoni – job fasa’n para’, fel y tystiodd ei frawd, Gareth. Roedd yn dra gofalus a thrylwyr ym mhopeth a wnâi, gan gymryd pob gorchwyl o ddifri, a phob amser yn benderfynol o lwyddo, doed a ddêl.

Ugain mlynedd yn ôl, chwaraeodd Bryn ran flaenllaw, gyda T. Arfon Williams ac eraill, yn sefydlu’r Gymdeithas Ddeintyddol, a bu’n swyddog gweithgar ac aelod diwyd a ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. O gofio mai un o brif amcanion y Gymdeithas wyddonol a chymdeithasol hon yw rhoi cyfle i ddeintyddion drin a thrafod pynciau deintyddol a materion cysylltiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, gwelwyd yn fuan fod angen llunio rhestr o dermau deintyddol yn yr iaith Gymraeg. Wedi i mi roi sgwrs i’r aelodau yn eu Cinio Gŵyl Dewi ym mis Mawrth 2000, gofynnodd Bryn a William J. Parry i mi a fyddwn yn barod i olygu rhyw 400 o dermau deintyddol a oedd eisoes wedi eu trosi i’r Gymraeg gan T. Arfon Williams. Ychydig a wyddwn y byddai’r 400 yn tyfu yn y man i fod dros 5000 o dermau a’r rheini yn Saesneg yn unig! Prin y gallai unrhyw leygwr yn y maes lwyddo gyda’r fath orchwyl oni bai am gymorth hanfodol y deintyddion eu hunain. Roedd Bryn ymhlith criw bach fu’n cyfarfod yn ysbeidiol i gynnig arweiniad hanfodol er gwarantu cyfieithiadau cywir ac ystyrlon a bu ei ddiddordeb a’i gyfraniad yn bwysig ac allweddol i sicrhau cyhoeddi’r Geiriadur Deintyddiaeth yn 2005.

Yn yr un modd, ac yntau’n Gadeirydd ac yn gofnodydd trylwyr Pwyllgor y Gymdeithas Ddeintyddol, rhoddwyd ar waith y syniad o sefydlu gwefan i’r Gymdeithas. Roedd diddordeb a brwdfrydedd Bryn yn amlwg o’r cychwyn cyntaf ac ni ellir ond canmol ei frwdfrydedd a’i gyfraniad ymarferol yn y cynlluniau a’r datblygiadau. Mor eironig bellach yw fod y wefan yn fyw a Bryn druan wedi ein gadael – a hynny yng nghanol ei holl weithgarwch.

Heb os nac oni bai, fodd bynnag, un o’r priodweddau amlycaf ym mhersonoliaeth Bryn oedd ei fod yn ddyn teulu o’r radd flaenaf. Ar hyd y blynyddoedd, bu’n gefn i’w deulu – i’w fam (yn arbennig ar ôl marwolaeth ddisymwth Eic, ei dad) a’i frodyr a’i chwaer; ys dywedodd Gareth amdano yn ei deyrnged gynnes ddydd ei angladd: ‘… fo oedd yr hogyn hirben a doeth, y callaf ohonom ni. Cymorth rhy hawdd ei gael mewn cyfyngder. Yn ofalus a chwbl ddibynadwy …’.

Tra oedd Bryn yn astudio yng Nghaerdydd, cyfarfu â Jan, a ddaeth yn gymar ac yn angor iddo, a pharhaodd melyster eu perthynas am dros saith mlynedd ar hugain, drwy gyfnod magu eu plant, a hyd at y diwedd un. Roedd yn meddwl y byd o Jan, a hithau ohono fo, a’r ddau’n byw i’w plant ac yn ymhyfrydu yn llwyddiannau pob un ohonyn nhw – Llŷr, Gwion, Branwen a Non.

Ystyriaf hi’n fraint o fod wedi cael y cyfle i gydweithio mor agos efo Bryn dros gyfnod o ddeng mlynedd a rhagor – wrth baratoi’r Geiriadur Deintyddiaeth yn y lle cyntaf ac, yn ddiweddar, wrth gynllunio a darparu gwefan y Gymdeithas Ddeintyddol. Bu ein perthynas yn un o gyd-ddeall, cyd-drafod a chydweithredu braf ar hyd y blynyddoedd ac roedd gennyf feddwl mawr ohono.

Mae’r golled yn arw ar ei ôl: collodd Ena fab gwerthfawr a thriw, collodd Jan ŵr cariadus a ffyddlon, a chollodd Llŷr, Gwion, Branwen a Non dad annwyl a gofalus – mae ein cydymdeimlad diffuant iawn â hwy yn eu galar a’u hiraeth. Gadawodd fwlch enfawr ar ei ôl yn y ddeintyddfa yn Llanfairpwllgwyngyll ac ymhlith ei gydweithwyr a’i gyfeillion yn gyffredinol. Nid hawdd fydd llenwi ei le yn y Gymdeithas Ddeintyddol ond cofir yn hir am ei weithgarwch diflino dros ei llwyddiant a’i ymdrechion dyfal dros gryfhau ac ymestyn safle’r iaith Gymraeg yn ei gweithgareddau.

Dyma Bryn: gŵr trylwyr, manwl a chydwybodol yn ei waith, gŵr gwylaidd, diymhongar, na chlywid fyth mohono’n brolio na chanu’i glodydd ei hun, gŵr hwyliog a fwynhâi ddifyrrwch ymhlith ei deulu a’i gyfeillion, gŵr bonheddig, amhrisiadwy a gollwyd o’n plith mor greulon o gynamserol.


Dymunaf gydnabod fy niolch i Gareth am gael defnyddio rhai ffeithiau o’r deyrnged a draddododd er cof am ei frawd yn y Gwasanaeth Coffa yng Nghapel Berea Newydd ym Mangor ddydd Mercher, Chwefror 22, 2012, ac, yn yr un modd, am gael codi rhai manylion o’r deyrnged a ddarparwyd gan Dr T. Rhys Davies, Llangefni, ar gyfer y BDJ.

Bryn Morris Jones

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol