John F Humphreys Jones

John Francis Humphreys Jones 1918-2012

 

Ar Ebrill I2fed 2010, bu farw Francis Humphreys Jones yn 91 rnlwydd oed. Mwynhaodd oes hir, hapus a diddorol. Fe'i ganwyd ym 1918 yn Llanfaglan, Caernarfon, yr hynaf o dri o feibion. Ffarmwr oedd ei dad, a fu farw pan nad oedd Francis ond yn saith oed. Symudodd ei fam o’r ffarm a magu’r meibion yn Llandrillo-yn-Rhos.

 Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun, lle disgleiriai mewn chwaraeon a mabolgampau ac fe ddaeth yn ddirprwy brif ddisgybl yr ysgol honno. Aeth i Brifysgol Lerpwl i astudio deintyddiaeth ac yn syth ar ôl cymhwyso, ymunodd â‘r Llynges Frenhinoi ym 1941. Tra oedd ar yr H.M.S. Glendower ef oedd yn gyfrifol am iechyd deintyddol y morwyr cyn iddyn nhw fynd allan i’r môr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfarfu â’i wraig, Mair, ac fe gafodd y ddau fwynhau 56 mlynedd o fywyd priodasol hapus cyn marwolaeth ei briod yn 2002.

 

Gwasanaethodd ar H.M.S. Sheffied fel Surgeon Lieutenant (D) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu’r llong honno â rhan yn y glanio yn Salerno ac yn ddiweddarach ym mrwydr North Cape, lle suddwyd y llong ryfel Almaenig Sharnhurst. Yn Scapa Flow, ym Mai 1944, dewiswyd ef yn Swyddog i gynrychioli H.M.S. Sheffield i giniawa gyda’r Brenin yng nghaban y Llyngesydd ar long ryfel y Duke of York. Derbyniodd dair medal goffa gan Iywodraeth Rwsia am ei ran yn cludo nwyddau ar draws yr Iwerydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel.

 Ar ôl y rhyfel dychwelodd i Gaernarfon lle bu’n ddeintydd am bron i ddeugain mlynedd, gyda diddordeb arbennig mewn prostheteg. Roedd yn boblogaidd iawn gyda phawb a'i hadwaenai ac roedd ei bersonoliaeth hynaws, hamddenol ac addfwyn yn ennyn parch ei holl gleifion.

 Roedd yn falch iawn o’i dreftadaeth Gymreig. Bu‘n llywydd Cymdeithas Ddinesig Caemarfon, ac yn llwyddiannus o ran sicrhau cadwraeth rhai o adeiladau hynafol unigryw a hanesyddol hen dref Caernarfon. Bu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1970-71 ac yn llywydd y Gymdeithas Ddeintyddol rhwng 1999 a 2002. Llwyn y Brain, Llanrug, oedd cartref y teulu a ffarmio oedd ei hoff ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith yn ei ddeintyddfa, a byddai wrth ei fodd adeg wyna a chynhaeaf gwair.

 Gadawodd ddwy ferch, Gwenllïan a Rhiannon, ac ŵyr a wyres.

 

William J. Parry


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol