Croeso i wefan y Gymdeithas Ddeintyddol

14eg o Hydref 2020 

Annwyl Aelodau,

Emyr Meek, sydd newydd raddio o Brifysgol Caerdydd, yw’r myfyriwr cyntaf i ennill Gwobr Gwyddoniaeth a Chelf Deintyddiaeth am lunio poster digidol mewn cystadleuaeth a drefnwyd gan y Gymdeithas Ddeintyddol ar gyfer myfyrwyr Ysgol Ddeintyddol Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Deintyddiaeth Cyffredinol y Deyrnas Gyfunol. 

Mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar i Alastair Sloan, cyn-Ddeon yr Ysgol Ddeintyddol, am roi sêl ei fendith ar ein cais i greu gwobr allanol gyfoes, ac i swyddogion y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu cefnogaeth hwythau.

Mae Emyr, yn ogystal, wedi ennill iddo’i hun yr anrhydedd o gipio’r wobr am lunio poster Saesneg hefyd. Braint i ni yng Nghymru, felly, ydi mai dyma’r tro cyntaf i gystadleuaeth fel hon gael ei chynnal ar gyfer myfyrwyr. Mae hi’n awr yn debygol o gael ei rhedeg ym Mhrifysgolion Leeds, Glasgow a phrifysgolion eraill eleni, gyda'r posibilrwydd hefyd o gael ei mabwysiadu gan holl ysgolion deintyddol y Deyrnas Gyfunol yn y dyfodol.

Mi fyddwn ni, aelodau’r Gymdeithas Ddeintyddol, yn cynnig i fyfyrwr sydd ar eu blwyddyn olaf yn holl ysgolion deintyddol y Deyrnas Gyfunol y cyfle i ymgeisio am y wobr eleni a hyderwn y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn barod i’n cynorthwyo unwaith eto.

Hoffem, hefyd, longyfarch Elen, ein hysgrifennydd weithgar, ar enedigaeth merch o'r enw Fflur ddechrau mis Awst, a dw i'n siŵr y bydd pob un o'n haelodau yn dymuno'r gorau i Elen a Carwyn, Greta a Fflur, yn y dyfodol. Rydym wrthi’n paratoi ar gyfer cynnal cyfarfod pwyllgor rhithiol (virtual) y mis hwn ac, felly, os oes unrhyw beth yr hoffech i ni ei godi a’i drafod, cofiwch gysylltu efo fi cyn gynted ag y bo modd. Dymuniadau gorau i'n holl aelodau a'u teuluoedd yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan fawr obeithio y gallwn gwrdd yn y Gynhadledd, efallai tua diwedd y gwanwyn, ac edrych ymlaen wedyn at ddyfodol gwell.

Da boch,

Quentin

Cadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol

 

Cliciwch ar y doleni isod er mwyn gwylio cyflwyniad gan Dr Emyr Meek o'r posteri digidol

https://1drv.ms/v/s!Ajcidcs6pl0nsT0q8REZs-0S-uvl– Fideo Cymraeg

https://1drv.ms/v/s!Ajcidcs6pl0nsTyMMYkM8L2pHlUd– Fideo Saesneg

 

 

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1991, gyda'r bwriad i alluogi deintyddion Cymraeg eu hiaith, yn ogystal â dysgwyr yn y maes, drafod materion proffesiynol ymysg ei gilydd yn yr iaith Gymraeg, cyfathrebu'n naturiol gyda'u cleifion yn eu mamiaith, a hefyd – ac roedd hyn cyn bwysiced â dim – cael cyfle i gymdeithasu â'i gilydd yn anffurfiol.

Mae aelodaeth o'r Gymdeithas Ddeintyddol yn agored i bawb sy'n gweithio ym myd deintyddiaeth ac i fyfyrwyr deintyddiaeth.

Erbyn hyn, mae'r Gymdeithas wedi datblygu patrwm o gynnal Cynhadledd Flynyddol, Taith Gerdded, Cinio Gŵyl Dewi, ac un neu ddau o gyfarfodydd lle ceir darlithoedd yn ymwneud â'r byd deintyddol bob blwyddyn.

Daw ein haelodau o bob rhan o Gymru (a thros y ffin) ac maent o bob oedran.

Pe baech yn dymuno ymaelodi, dilynwch y ddolen 'Ymaelodi'.

Diolch am eich diddordeb. Os nad ydych eisoes yn aelod, yna fe edrychwn ymlaen at eich croesawu i'n plith.


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol
Gwefan gan Dylunio Bilberry & Dylunio Gringo