Geiriadur Deintyddiaeth

Gol. J. Elwyn Hughes, Y Gymdeithas Ddeintyddol, 2005

Mae’r Geiriadur Deintyddiaeth yn torri tir newydd yn y Gymraeg gan mai dyma’r tro cyntaf erioed i gasgliad o dermau deintyddol gael ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Y Gymdeithas Ddeintyddol ei hun fu’n gyfrifiol am y treuliau cyhoeddi ond mae’n bwysig cydnabod i Adran Ddeintyddol Ôl-Raddedig Prifysgol Caerdydd ysgwyddo’r costau argraffu i gyd.

Lansiwyd y gyfrol arloesol hon yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ddeintyddol yng Ngwesty’r Thistle, Caerdydd, ddydd Sadwrn, Mehefin 18, 2005, ac yn ystod y cyfarfod, gyda Llywydd y Gymdeithas, Siôn M. Griffiths, yn y Gadair, a rhai o aelodau o Fwrdd yr Iaith hefyd yn bresennol, gwrandawyd ar Dr Ieuan Parri a J. Elwyn Hughes yn adrodd ychydig o hanes llunio’r Geiriadur – gwaith rhan amser a ddechreuwyd ryw bedair blynedd ynghynt pan ymgymerodd J. Elwyn Hughes â’r gorchwyl o fod yn Olygydd Cyffredinol y gwaith. Codwyd Panel Termau i’w gynorthwyo, yn cynnwys Dr Gareth Davies, Cadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol, Mr William Parry, Orthodontegydd Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd, a’r deintyddion Bryn Morris Jones a Carys Harper Lloyd, ac fe wahoddwyd Dr Ieuan Parri i fod yn Ymgynghorydd Meddygol.

Wrth gloi’r cyfarfod hanesyddol hwn, cyflwynodd J. Elwyn Hughes gopi cyntaf y Geiriadur Deintyddiaeth i Einir, gweddw T. Arfon Williams (a roes sbardun i ddechrau’r holl waith drwy drosi rhyw 400 o dermau). Erbyn hyn, tyfodd y 400 gan Arfon i fod rhwng 5000 a 6000 o dermau, a’r cyfan wedi eu croesgyfeirio er hwylustod i’r defnyddiwr, mewn 180 o dudalennau A5. [Ar hyn o bryd, geiriadur un-ffordd ydyw, sef o’r Saesneg i’r Gymraeg.]

Anfonir copi o’r Geiriadur Deintyddiaeth at yr holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n cael eu hyfforddi i fod yn ddeintyddion ac fe obeithir y gwneir defnydd ymarferol helaeth ohono. Ceir ffurflen isod ar gyfer archebu eich copi o’r Geiriadur.

Dyfyniad o Ragymadrodd Dr J. Elwyn Hughes i’r Geiriadur Deintyddiaeth

"..... Fel y gellid disgwyl, daeth y Panel Termau, fel y daethpwyd i’w alw, ar draws nifer o anawsterau. Er enghraifft, doedd y gair gên ddim digon da i gyfieithu jaw a chin i’r Gymraeg – roedd angen dau air gwahanol. Penderfynwyd ar gên am jaw a blaen yr ên am chin (er ein bod yn ymwybodol bod genau, sef ffurf luosog gên, hefyd yn air arall am y geg). Yn yr un modd, oherwydd mai bwa a arferid am arch a bow, penderfynwyd defnyddio bwa am arch a chynnig gair ‘newydd’, sef crymyn, am bow. A chafwyd cryn drafod ynghylch y gair dental, gan fod gennym eisoes ddau air yn Gymraeg, sef deintyddol a deintiol. Penderfynwyd mabwysiadu deintiol mewn perthynas â dant neu ddannedd a deintyddol i ddisgrifio’r maes neu’r wyddor yn gyffredinol (er bod gorgyffwrdd yn anochel o bryd i’w gilydd). Bu trafod hefyd ar yr angen i adlewyrchu ynganiad gair yn y ffordd y sillefid ef, a bod mor gyson ag y bo modd yn hynny o beth (er enghraifft: f[e]irws, ff[e]ibr, m[i]wcosa, t[i]wbercwl, etc., gan gynnwys bachau petryal […] i ddynodi bod dewis gan y defnyddiwr). Weithiau, cafwyd bod dau air neu ymadrodd (ac weithiau dri) yn Saesneg yn golygu’r un peth yn union fel, er enghraifft, approximal, intraproximal a proximal; bodlonwyd ar un gair yn unig, sef cyffyrddol, yn Gymraeg. O safbwynt rhai termau cemegol, penderfynwyd (yn ddigon anfoddog, mae’n rhaid dweud) y dylid dilyn y drefn arferedig yn Saesneg (h.y., trosi zinc oxide, er enghraifft, yn sinc ocsid, er mai ocsid sinc fyddai gywiraf o ran ystyr). Er hwylustod, aethpwyd ati i groesgyfeirio’r rhan fwyaf o’r cofnodion, sy’n golygu y gellir dod o hyd i gyfieithiad o acute necrotizing ulcerative gingivitis, er enghraifft, dan y pedwar gair unigol...."

Ychydig enghreifftiau’n unig a gynhwysir yn y paragraff uchod i awgrymu dyfnder a manylder y trafodaethau a gynhaliwyd gan aelodau’r Panel Termau. Cafwyd barn nifer o ddeintyddion ar sawl drafft o’r gwaith a derbyniwyd awgrymiadau adeiladol yn ogystal ag ychwanegiadau angenrheidiol. Yn ogystal ag edrych ar restrau termau sydd eisoes ar gael mewn meysydd cysylltiol, mae’n deg i ni gydnabod ein bod wedi ymgynghori’n helaeth â Geiriadur yr Academi ac wedi cael llawer o fudd o wneud hynny. Dylid ychwanegu, fodd bynnag, fod y Panel wedi teimlo ar adegau nad oedd ambell gynnig a welwyd yn ddigon penodol neu’n ddigon manwl a phwyswyd yn drwm ar brofiad ac arbenigedd y deintyddion a’r ymgynghorydd meddygol i gyrraedd at union ystyr y gair yn Gymraeg.

Pigion o'r Geiriadur Deintyddiaeth

Dyma ddyrnaid o eirau a thermau o'r geiriadur er mwyn rhoi syniad o batrwm a ffurf y gwaith.

abnormal, abnormal (ans); annormal (ans); ~ frenum, ffrwyn (eg) abnormal (ll. ffrwynau abnormal); nothing ~ discovered (N.A.D.) , dim abnormal wedi’i ganfod (D.A.W.G.)

abnormality, abnormalrwydd (eg); annormaledd (eg)

abrasion, sgriffiad (eg) (ll. sgriffiadau); sgriffio (be); ~ resistant, gwrthsgriffiol (ans); gwrthsefyll (be) sgriffio

abrasive, sgriffiol (ans); ~ disc, disg (egb) sgriffio (ll. disgiau sgriffio); ~ paste, pâst (eg) sgriffio (ll. pastau sgriffio); ~ strip, stribyn (eg) sgriffio (ll. stribynnau/stribiau sgriffio); ~ wheel, olwyn (eb) sgriffio (ll. olwynion sgriffio); air ~, llifanwr (eg) aer (ll. llifanwyr aer)

abscess, crawniad (eg) (ll. crawniadau); gingival ~, crawniad gorchfannol (ll. crawniadau gorchfannol); lateral periodontal ~, crawniad periodontol ochrol (ll. crawniadau periodontol ochrol); palatal ~, crawniad taflodol (ll. crawniadau taflodol); periapical ~, crawniad perifrigol (ll. crawniadau perifrigol); pericemental ~, crawniad perismentol (ll. crawniadau perismentol); pericoronal ~, crawniad perigoronol (ll. crawniadau perigoronol); periodontal ~, crawniad periodontol (ll. crawniadau periodontol); peritonsillar ~, crawniad peritonsilaidd (ll. crawniadau peritonsilaidd); crawniad perigilchwyrnol (ll. crawniadau perigilchwyrnol)

absorb, amsugno (be)

absorbable, amsugnadwy (ans); ~ root-filling paste, pâst-llenwi-gwreiddiau (eg) amsugnadwy (ll. pastau-llenwi gwreiddiau amsugnadwy)

absorbed, amsugnedig (ans); ~ dose, dogn (eg) amsugnedig (ll. dognau amsugnedig); dos (egb) amsugnedig (ll. dosau amsugnedig); integral ~ dose, dogn (eg) amsugnedig cyfannol (ll. dognau amsugnedig cyfannol); dos (egb) amsugnedig c/gyfannol (ll. dosau amsugnedig cyfannol)

absorbent point, pwynt (eg) papur amsugno (ll. pwyntiau papur amsugno)

absorption, amsugnad (eg) (ll. amsugnadau)

abutment, pentan (eg) (ll. pentanau); ~ tooth, dant (eg) pentan (ll. dannedd pentan); transmucosal ~, pentan trawsf[i]wcosol (ll. pentanau trawsf[i]wcosol)

acantholysis, acantholysis (eg)

acanthosis, acanthosis (eg)

accelerator, cyflymydd (eg) (ll. cyflymyddion)

access cavity, agorfa (eb) (ll. agorfeydd)

accessory, atodol (ans); ~ root canal, sianel (eb) atodol y gwreiddyn (ll. sianelau atodol y gwreiddyn)

accretion, croniant (eg) (ll. croniannau)

acetate, asetad (eg); zinc ~, sinc (eg) asetad

ache, poen (egb) (ll. poenau); dolur (eg) (ll. doluriau); gwayw (eg) (ll. gwewyr); cur (eg); brifo (be); tooth~, y ddannoedd (eg)

achondroplasia, acondroplasia (eg)

aciclovir, asiclofir (eg)

acid, asid (eg) (ll. asidau); ~ etch/acid etching, sgythriad (eg) asid (ll. sgythriadau asid); ~ etch retention, dargadw (be) sgythriad asid; 2-ethoxybenzoic ~, asid 2-ethocsibensöig (ll. asidau 2-ethocsibensöig); 2-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid 2-ethocsibensöig (ll. smentiau asid 2-ethocsibensöig); ascorbic ~, asid ascorbig (ll. asidau ascorbig); boracic ~, asid borasig (ll. asidau borasig); ethylenediamine tetra-acetic ~, asid ethylenediamine tetra-asetig (ll. asidau ethylenediamine tetra-asetig); methacrylic ~, asid methacrylig (ll. asidau methacrylig); o-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid o-ethocsi-bensöig (ll. smentiau asid o-ethocsi-bensöig); orthoboric ~, asid orthoborig (ll. asidau orthoborig); ortho-ethoxybenzoic ~, asid ortho-ethocsi-bensöig (ll. asidau ortho-ethocsi-bensöig); ortho-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid ortho-ethocsi-bensöig (ll. smentiau asid ortho-ethocsi-bensöig); orthophosphoric ~, asid orthoffosfforig (ll. asidau orthoffosfforig); phosphoric ~, asid ffosfforig (ll. asidau ffosfforig); poly(acrylic) ~, asid polyacrylig (ll. asidau polyacrylig)

Apêl

Mae rhai blynyddoedd bellach er pan gyhoeddwyd y Geiriadur Deintyddiaeth ac nid oes amheuaeth, yn yr oes garlamus-dechnegol hon, nad oes toreth o eiriau ‘newydd’ wedi cael eu bathu yn y Saesneg ym maes deintyddiaeth a’r canghennau cysylltiol. Pe baech chi’n gwybod am unrhyw air neu derm nad yw wedi ei gynnwys yn y Geiriadur Deintyddiaeth, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi gwybod i’r Gymdeithas Ddeintyddol (gan fentro awgrymu trosiad i’r Gymraeg pe gallech!). Gellwch anfon eich awgrymiadau’n syth at Dr J. Elwyn Hughes, Bryn Ogwen, Bethel, Caernarfon, Gwynedd. LL55 3AA. [email protected] (01248 670517 / 079 79 50 66 80).

Archebu

Gellir archebu copi o’r Geiriadur am £5.00 (£6.50 drwy’r post, gyda siec yn daladwy i: Y Gymdeithas Ddeintyddol) drwy gysylltu â Justin Wyn Jones, 6 Stryd yr Eglwys, Penrhyndeudraeth, Gwynedd. LL48 6AB – rhif ffôn: 01766 770 376 neu drwy anfon ato gopi o’r Ffurflen Archebu drwy glicio ar yr eicon uchod.

Ffurflen Archebu
 
Solution Graphics

Mae'r Gymdeithas Ddeintyddol yn derbyn taiadau ar-lein drwy PayPal. Mae'n gyflym, yn ddiogel ac yn gwarchod eich preifatrwydd ar-lein.

Nid oes rhaid i gael cyfrif PayPal i ddefnyddio PayPal. Gellwch dalu drwy ddefnyddio eich cerdyn credyd pe baech yn dymuno.


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol