Y Gymdeithas Ddeintyddol
Eleni mae’r Gymdeithas Ddeintyddol yn dathlu ei phen-blwydd yn ugain oed. Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1991 ar ôl cylchlythyru nifer o ddeintyddion yng Ngwynedd a Chlwyd. Ym mis Hydref 1991, cynhaliwyd cyfarfod yn Llandudno pryd yr enwebwyd y Bnr T. Arfon Williams, Swyddog Deintyddol y Swyddfa Gymreig, yn Gadeirydd. Penderfynwyd mai prif ddiben y Gymdeithas fyddai hybu trafodaeth ar ddeintyddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Yn y cyfarfod nesaf, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 1992, gwahoddwyd Dr Bruce Griffiths i drafod ‘Geirfa a Thermau Deintyddol’. Cafwyd trafodaeth frwd a phwyswyd ar gyngor a phrofiad y geiriadurwr.
Ym mis Mai 1992, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol gyntaf y Gymdeithas yng Ngwesty Penbontbren, Glynarthen, a braf oedd clywed rhai o’r termau deintyddol yn cael eu defnyddio’n naturiol a llithrig.
Yng nghyfarfod blynyddol cyntaf y Gymdeithas, mabwysiadwyd cyfansoddiad drafft, a chyhoeddwyd rhaglen ar gyfer y flwyddyn academaidd. Roedd Cyfarwyddwr Addysg Ôl-Raddedig Cymru yn cydnabod cymhwyster darlithoedd er mwyn gallu hawlio lwfans addysgol gan ymarferyddion cyffredinol. Penderfynwyd cynnal Cynhadledd yn flynyddol, gan gyfarfod ym 1993 yng Nglynarthen eto. Ar y dechrau, tanysgrifiadau’r aelodau a nawdd gan gwmnïau masnachol oedd yn ariannu’r Gymdeithas ac fe dderbyniwyd nawdd gan y B.D.A. hefyd.
Dyma restr o leoliadau’r Cynadleddau dros y blynyddoedd ynghyd ag enwau’r siaradwyr gwadd ar yr achlysuron hynny.
1994
|
Seiont Manor: Dafydd Wigley
|
1995
|
Seiont Manor
|
1996
|
Abertawe
|
1997
|
Caer: Cyd-Gynhadledd y Gymdeithas Feddygol a’r Gymdeithas Ddeintyddol
|
1998
|
Caerdydd
|
1999
|
Aberystwyth, pryd y cafwyd darlith er cof am T. Arfon Williams gan y Prifardd Emyr Lewis ar y testun ‘Gwaith Arfon’. Yn dilyn hyn, penderfynwyd cyflwyno ‘Darlith T. Arfon Williams’ bob blwyddyn.
|
2000
|
Portmeirion: Gwyn Erfyl, ar y testun ‘Y Gair’.
Yn y gynhadledd hon, roedd ymwelydd arbennig, sef Olva Odlum, yn cyflwyno sgwrs ar ‘Deintydd yr Esgimo’.
Am y tro cyntaf, cyflwynwyd ‘Tlws y Llywydd’ gan weddw’r cyn-lywydd T. Arfon Williams, Einir Wynn Williams, i lywydd newydd y Gymdeithas, sef y Bnr Francis Humphreys-Jones.
|
2001
|
Caerdydd: Dr John Davies
Dyma’r ddegfed gynhadledd ac ar yr achlysur hwn y codwyd y syniad o gynhyrchu ‘Geirfa Deintyddiaeth’, gyda chydweithrediad Dr J. Elwyn Hughes a Dr Ieuan Parri.
|
2002
|
St David’s Park, Ewloe: Dr Aled Lloyd Davies
|
2003
|
Caerdydd: Donald Treharne, ar y testun ‘Llestri Llanelli’
|
2004
|
Llandudno: Dr Bruce Griffiths, ar y testun ‘Llên Gwerin Heddiw’
|
2005
|
Caerdydd: Dr J. Elwyn Hughes ar y testun ‘Pytiau difyr yn hanes Caradog Pritchard’.
Yn y Gynhadledd hon y lansiwyd cyfrol arloesol, un a oedd yn torri tir newydd yn y Gymraeg, sef Geiriadur Deintyddiaeth, a olygwyd gan Dr J. Elwyn Hughes.
|
2006
|
Portmeirion: Y Parch Huw Jones, ar y testun ‘Hiwmor’
|
2007
|
Caerdydd: Yr Athro Hywel Teifi Edwards.
|
2008
|
Caerdydd: Y Prifardd Mererid Hopwood
|
2009
|
Caerdydd: Yr Athro Glyn O. Phillips
|
2010
|
Seiont Manor: Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas
|
2011 |
Park Plaza Hotel, Caerdydd. Meri Huws, Darpar-Gomisynydd Iaith Cymru
|
2012 |
Gwesty St George, Llandudno. Parchedig Emlyn Richards
|
2013 |
Gwesty Park Plaza, Caerdydd. Bethan Gwanas
|
2014 |
Gwesty Llety Parc, Aberystwyth. Mr Lyn Ebenezer
|
2015 |
Gwesty'r Hilton, Caerdydd. Mr Geraint Talfan Davies |
2016 |
Gwesty'r Hilton, Caerdydd. Mr Huw Edwrads o'r BBC. |