Llwybrau Gyrfaol Posib
Unwaith y bydd deintydd wedi graddio, bydd yn berchen ar gymhwyster BDS. Bydd y deintydd wedyn yn dilyn cwrs hyfforddiant galwedigaethol cyn cael ceisio am swydd
deintydd cynorthwyol (assistant) i ddeintydd arall neu fel cymheiriad hunangyflogedig. Gallai hefyd weithio o fewn ysbyty, gyda’r gymuned neu, hyd yn oed, yn y lluoedd
arfog.
Pe bai deintydd yn dymuno arbenigo, gallai ddilyn strwythur gyrfaol y FFGDP (UK). Mae'r strwythur yn cynnwys tri cham.
- Yn gyntaf, byddai’n rhaid iddo sicrhau MJDF – neu bortffolio o brofiadau MJDF ynghyd â deng mlynedd o brofiad neu ennill MClin Dent neu MSc.
- Yn ail, mae modd hel credydau drwy gyflawni cyrsiau ôl-raddedig.
- Ac yn drydydd, rhaid creu portffolio i brofi arbenigedd mewn gofal i gleifion, ynghyd ag asesiad.
Mae Diploma of Membership of the Joint Dental Faculties yn y Royal College of Surgeons of England (MJDF RCS Eng) yn asesiad, wedi’i ddatblygu ar y cyd
gan y Faculty of General Dental Practice (UK) a’r Faculty of Dental Surgery of the Royal College of Surgeons of England. Mae’r
arholiad yma wedi disodli’r arholiadau hyn:
- Diploma of Membership of the Faculty of General Dental Practice (UK) (MFGDP [UK])
- Diploma of Membership of the Faculty of Dental Surgery (MFDS RCS Eng).
Mae’r arholiad MJDF wedi’i strwythuro fel a ganlyn:
- Portffolio Tystiolaeth wedi ei selio ar brofiadau gwaith
- Arholiad rhan 1 yn bapur arholiad sy’n cynnwys cwestiynau aml-ateb (MCQs), ac
- Arholiad rhan 2 sy’n brawf o arholiad clinigol strwythuredig (OSCE) ac yn ymarfer mewn rhesymu clinigol (SCR).
Mae’r canolfannau hyn yn cynnig cyrsiau tysgysgrif BDS yn ogystal â chyrsiau ôl-radd:
UNIVERSITY OF ABERDEEN – SCHOOL OF MEDICINE AND DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 1224 554 975
Cynigir rhaglen Physician Assistant.
BARTS AND THE LONDON QUEEN MARY SCHOOL OF MEDICINE AND DENTISTRY – INSTITUTE OF DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 20 7882 2240
- Master of Clinical Dentistry (M.ClinDent): Prosthodontics, Periodontology, Oral Surgery neu Paediatric Dentistry.
- Master of Science (MSc): Orthodontics, Experimental Oral Pathology, Dental Public Health, Oral Biology, Implant Dentistry neu Dental
Technology.
- Postgraduate Diploma: Dental Clinical Sciences, Endodontic Practice, neu Dental Technology.
UNIVERSITY OF BIRMINGHAM – THE SCHOOL OF DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 121 237 2761
- Graddau ymchwil: PhD / MPhil / MSc
- Gradd Meistr seiliedig ar fodiwlau mewn Ymarfer Deintyddol Cyffredinol
UNIVERSITY OF BRISTOL – SCHOOL OF ORAL AND DENTAL SCIENCES
Rhif ffôn: +44 (0) 117 928 7679
- MSc mewn Dental Implantology
- DPDS mewn Dental Studies
- DDS mewn Orthodontics
- Cyfle MSc a PhD mewn ymchwil
PRIFYSGOL CAERDYDD – YSGOL DDEINTYDDOL
Rhif ffôn: +44 (0) 29 2074 5867
- MScD mewn Orthodonteg
- MSc mewn Peirianneg Meinwe (Tissue Engineering)
- MSc mewn Mewnblannu (Implantology)
- MSc/Diploma mewn Tawelyddu Ymwybodol (Conscious Sedation)
- Meistr mewn Deintyddiaeth Glinigol
UNIVERSITY OF DUNDEE – SCHOOL OF DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 1382 660 111
UNIVERSITY OF EDINBURGH – EDINBURGH POSTGRADUATE DENTAL INSTITUTE
Rhif ffôn: +44 (0) 131 536 4970
Yn cynnig MSc yn y canlynol
UNIVERSITY OF GLASGOW – DENTAL SCHOOL
Rhif ffôn: +44 (0) 141 211 9600
Yn cynnig graddau mewn
KING'S COLLEGE LONDON – DENTAL INSTITUTE
Rhif ffôn: +44 (0) 20 7848 6512
UNIVERSITY OF CENTRAL LANCASHIRE – SCHOOL OF DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 1772 892 400
UNIVERSITY OF LEEDS – LEEDS DENTAL INSTITUTE
Rhif ffôn: +44 (0) 113 343 6199
UNIVERSITY OF LIVERPOOL – SCHOOL OF DENTAL SCIENCES
Rhif ffôn: +44 (0) 151 706 5298
Doethuriaeth Broffesiynol mewn Orthodonteg
UNIVERSITY OF MANCHESTER – SCHOOL OF DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 161 306 0231
PENINSULA COLLEGE OF MEDICINE AND DENTISTRY – PENINSULA DENTAL SCHOOL
Rhif ffôn: +44 (0) 1752 437 444
QUEEN'S UNIVERSITY BELFAST - CENTRE FOR DENTAL EDUCATION
Rhif ffôn: +44 (0) 2890 972 349
UNIVERSITY OF SHEFFIELD – THE SCHOOL OF CLINICAL DENTISTRY
Rhif ffôn: +44 (0) 114 271 7808
UNIVERSITY COLLEGE LONDON – UCL EASTMAN DENTAL INSTITUTE
Rhif ffôn: +44 (0) 20 7915 1038
Doleni i CPD
http://www.dentaljuce.com/
Gweithio Dramor
Os ydych yn meddwl am weithio dramor, dyma ychydig o bethau i’w hystyried cyn mentro.
- Pa fath o brofiad allwn ni ei ddisgwyl?
- Oes rhaid cael pigiadau imiwnedd i deithio?
- Oes gwaith/hyfforddiant priodol ar gael?
- Pa gymwysterau sydd yn rhaid i mi eu cael?
- Faint o amser mae’r broses o ymaelodi a derbyn cyngor deintyddol brodorol yn ei gymryd
- Oes rhaid i mi sefyll arholiadau i fy ngalluogi i weithio tramor?
Seland Newydd
Mae angen anfon tystysgrifau’r GDC a phrawf imiwnedd HepB . Mae mwy o Hep B yn Seland Newydd nag yng Nghymru. Bydd rhaid sefyll arholiad i brofi dealltwriaeth o
ddiwylliant lleol y Maori, hynny yw, pwysigrwydd y teulu, ac effaith hynny ar ofal y claf.
O safbwynt indemniad, bydd angen i chi ystyried newid y math o yswiriant sydd gynnoch chi er mwyn sicrhau ei fod yn berthnasol i Seland Newydd. Er bod Seland Newydd yn
wlad ddatblygiedig, mae ynddi ganran isel o gleifion sy’n mynnu iawndal gan ddeintydd. System syml o lenwi ffurflen AAC gan y claf a’r deintydd ar y cyd sydd yno, ac mae’r
wlad yn talu ychydig iawndal am unrhyw ddamwain glinigol.
Does dim GIG yn Seland Newydd ond mae system ar gyfer cleifion sydd ar fudd-daliadau i dderbyn triniaeth. Rhaid i ddeintydd roi pris ar gyfer y driniaeth arfaethedig i
glaf, er mwyn i’r swyddfa budd-dal ei brosesu a’i ganiatáu, cyn dechrau ar y driniaeth.
Mae’n rhaid cofio talu treth cyn i chi adael y wlad.
Dolen i gwmni gwaith yn Seland Newydd http://www.lanzrecruitment.com
Dolen y Gymdeithas Ddeintyddol yn Seland Newydd http://www.nzda.org.nz
Dolen y Cyngor Deintyddol yn Seland Newydd http://www.dentalcouncil.org.nz
Cyngor ar Gytundebau gweithio!
Bydd llofnodi contract swmpus a chymhleth yn gallu bod yn boen meddwl. Mae’n werth ystyried y pwyntiau a ganlyn cyn cytuno:
- Beth yw oriau gwaith y gweithle, a phryd y gellir defnyddio’r gweithle. Oes modd cynyddu neu gwtogi oriau os oes angen cwblhau targed neu gyflawni hyfforddiant?
- Faint o wyliau sy’n dderbyniol? Oes angen amser penodol cyn medru trefnu gwyliau? Oes angen trefnu locum os yn mynd ar wyliau hir?
- Mewn achos o driniaeth ddiffygiol, pwy sy’n talu am hwnnw? Er enghraifft ,os nad yw dannedd gosod yn ffitio, a yw’r practis a’r cymheiriad (associate) yn rhannu
cost y labordy?
- Ydi cost y labordy’n cael ei rannu’n gyfartal?
- Beth ydi canran taliad y cymheiriad (associate) am wasanaeth y practis?
- Beth ydi adnoddau’r practis. h.y. nyrs, ysgrifenyddes, rheolwr practis, cyfarpar, offer a nwyddau. Hysbysebu a chyflenwad o gleifion.
- Beth sy’n digwydd pan mae nyrs yn sâl? Neu gyfarpar yn torri?
- Ydi’r practis yn cymryd cyfrifoldeb am ‘ddyledion drwg’ (pan nad yw cleifion yn talu)?
- Faint o rybudd sydd angen ei roi cyn dod â’r cytundeb i ben?
- Oes posib gweithio lai na 3 milltir o’r practis ar ôl gadael. Mae hyn i fod i sicrhau nad yw deintydd o’r ddeintyddfa yn hudo cleifion i’w ddilyn.
Mae cyngor ar gytundebau cymheiriaid mewn pamffled gan y BDA – Performer Agreement A17.