Gwobrau

Cynhelir cystadlaethau blynyddol dan nawdd GIG Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru i wobrwyo cyrff a sefydliadau, mewn gwahanol gategorïau, sy’n dangos blaengaredd a menter o ran hyrwyddo’r Gymraeg ym maes Gofal Iechyd.

Yn 2005, cyflwynodd y Gymdeithas Ddeintyddol gynllun ar gyfer llunio rhestr o dermau Saesneg-Cymraeg ym maes deintyddiaeth. Derbyniwyd gwobr o £500. Yn dilyn hynny, cyflwynwyd cais arall yn 2006 yn cynnwys manylion llawn am y Geiriadur Deintyddiaeth a oedd, erbyn hynny, wedi’i gyhoeddi. Dyfarnwyd y wobr gyntaf o £1000 i’r Gymdeithas Ddeintyddol am y gwaith hwn.

Yn 2010, darparwyd cais ar gyfer y gystadleuaeth yng nghategori ‘Addysg a Hyfforddiant sy’n hybu gweithlu dwyieithog’ sef rhaglen Cynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ddeintyddol. Enillwyd yr ail wobr o £500.

Teimlwn fel Cymdeithas fod angen hwyluso ein gallu i gyfathrebu â’n cleifion yn y Gymraeg ac felly gwnaed cais yng nghystadleuaeth 2012 am nawdd i drosi cyfres o daflenni gwybodaeth i gleifion a gynhyrchwyd yn Saesneg gan y BDA. Unwaith eto, enillodd y Gymdeithas y wobr gyntaf o £1000 am y gwaith hwn a bellach gellir lawrlwytho’r taflenni hyn (cliciwch ‘Cyhoeddiadau’ ar y brif ddewislen ac yna ‘Taflenni’).

Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd

Adroddiad gan Dr Siôn M. Griffiths, Llywydd y Gymdeithas Ddeintyddol

Roeddwn yn falch iawn o fod wedi cael cyfle i fod yn bresennol yn y gynhadledd i gyflwyno Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd yng Nghanolfan y Mileniwm, Bae Caerdydd, ar y 4ydd o Orffennaf 2012. Roedd tua 100 o bobl yn bresennol, yn cynrychioli gwahanol grwpiau iechyd, i wrando ar Bethan Jones Parry yn llywio’r gweithgareddau. Dechreuwyd y diwrnod gyda chyflwyniadau byrion gan Beti George, y ddarlledwraig ac aelod o bwyllgor llywio’r fframwaith strategol ‘Mwy na geiriau ...’; Delyth  Isaac, cynhyrchydd rhaglenni gwleidyddol Cymraeg BBC Cymru; Gwenda Thomas AC, Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg. Yn dilyn y cyflwyniadau hyn, cynhaliwyd sesiwn o holi ac ateb.

Roedd dwy sesiwn wedi eu trefnu i gyflwyno gwobrau, un yn y bore ac un arall yn y prynhawn. Rhwng y naill sesiwn a’r llall, ymrannodd y cynadleddwyr yn grwpiau mewn gweithdai i gynnal trafodaethau ar bump o wahanol bynciau.

Nodwyd bod 12 categori am y gwobrau a’r rheini i’w cyflwyno i amryw o grwpiau neu unigolion a oedd yn ymwneud â gwella darpariaeth o ofal iechyd trwy ddefnyddio’r iaith Gymraeg. Gwaetha’r modd, ataliwyd gwobrau mewn dau gategori am nad oedd safon y prosiectau’n deilwng.

Roedd y Gymdeithas Ddeintyddol wedi gwneud cais am wobr yn y categori ‘Ymarfer blaengar mewn gofal sylfaenol sy’n ymateb i anghenion cleifion am wasanaeth dwyieithog’. Cyflwynodd y Gymdeithas gyfieithiad o 29 o bamffledi Saesneg a gynhyrchwyd gan y BDA yn hysbysu cleifion am y gwahanol fathau o driniaethau deintyddol. Yr arfer wrth gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr ym mhob categori yw dangos cyfweliad byr wedi’i ffilmio ymlaen llaw efo’r buddugol.

Braf oedd clywed bod y Gymdeithas Ddeintyddol wedi dod i’r brig yn y categori a nodir uchod a mwynhawyd Dr Rhys Davies yn trafod, ar ffilm, y rhesymau y tu ôl i’r prosiect. Er mai Rhys a Phwyllgor y Gymdeithas a gyflwynodd y syniad ar gyfer y prosiect yn y lle cyntaf, roeddent am gydnabod pwysigrwydd cymorth Dr J. Elwyn Hughes a’i blant, Siôn a Manon, am gwblhau’r gwaith mewn modd hollol broffesiynol.

Profodd y gweithdai’n boblogaidd iawn, efo’r ymateb yn awgrymu bod dadlau brwd wedi bod yn ystod y cyfarfodydd. Wrth ail gwrdd, i gloi’r diwrnod, cafwyd tri chyflwyniad byr gan Huw Dylan Owen, therapydd galwedigaethol; Pam Wedley o ‘Macmillan’; a Gwenan Prysor, defnyddiwraig gwasanaeth. Wrth edrych yn ôl, nid oes amheuaeth na fu hwn yn ddiwrnod gwerth chweil.

Ar ddiwedd y gynhadledd, mynegwyd cydnabyddiaeth o bwysigrwydd dewis iaith er mwyn gwella’r cyfathrebu rhwng y gweithiwr gofal iechyd a’r claf.

Gwobrau

Galeri
Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd Gwobrau’r Gymraeg mewn Gofal Iechyd Gwobrau'r Gymraeg mewn Gofal Iechyd

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol