Cyfweliadau

.

Dr Catrin Tomos

.
Caergybi

Cyfweliad y flwyddyn sylfaen

gan Catrin Tomos

 

Ar hyn o bryd dw i hanner ffordd drwy fy mlwyddyn sylfaen ac yn gweithio yng Nghaergybi. Dw i’n dechrau dod i arfer efo gweithio’n llawn amser, a bellach mae sefyll fy arholiadau gradd yn dechrau troi’n atgof pellennig, a’r cyfweliad ar gyfer y flwyddyn sylfaen hyd yn oed fwy felly. Bwriad yr erthygl yma ydi rhoi syniad bras o’r broses o ymgeisio am swydd fel deintydd o dan hyfforddiant (Foundation Dentist – FD). Drwy broses o recriwtio cenedlaethol y caiff swyddi eu dosrannu y dyddiau hyn, ac mae hi’n system deg. Fodd bynnag, dw i ddim am eich camarwain drwy ddweud ei bod hi’n broses hawdd achos, gwaetha’r modd, doedd hi ddim i mi!

 

Hyfforddiant Sylfaen

Mae Hyfforddiant Sylfaenol mewn Deintyddiaeth (Dental Foundation Training – DFT) yn flwyddyn orfodol ar ôl graddio o brifysgol yn y DU os oes arnoch eisiau gweithio fel deintydd i’r GIG ar unrhyw adeg yn ystod eich gyrfa. Mewn practis y mae’r swyddi DFT gan amlaf, gyda llond llaw yn y gymuned neu’n gynlluniau hydredol mewn gwasanaethau gofal cynradd (fel practis) ac eilradd (mewn ysbyty).

Cyflogir deintyddion dan hyfforddiant (Foundation Dentists – FDs) ar gytundeb blwyddyn am 35 awr yr wythnos. Mae un diwrnod yr wythnos yn ystod y tymor yn ddiwrnod dan hyfforddiant penodedig, fel arfer yn y ganolfan ôl-radd leol. Mae ’na leiafswm o 30 o’r dyddiau yma mewn blwyddyn. Mae cyflog FD ychydig dros £30,000 y flwyddyn, sy’n gyflog sylweddol yn syth o’r coleg.

 

Y broses gyf-weld

Fel pe na bai bod ar eich blwyddyn olaf yn coleg ddim yn dod â digon o straen a phoen meddwl i chi, roedd rhaid goresgyn ras rwystrau ychwanegol, sef y broses gyf-weld ar gyfer DFT.

Ddiwedd Awst, cyn i mi ddechrau ar fy mhumed flwyddyn, roedd rhaid i mi lenwi ffurflen gais i gael mynd am gyfweliad. Yn ôl pob sôn, doedd dim cyfyngiadau, a phob myfyriwr blwyddyn olaf yn  sicr o gael cyfweliad; ac felly roedd ’na obaith y byddai’r ffurflen yn un ddigon syml i’w llenwi. Roedd rhaid creu cyfrif ar wefan Oriel.nhs.uk a chyflwyno eich manylion personol. ‘Dim problem, meddech chi’ – ond pe baech yn cyflwyno’r ffurflen ac arni un camgymeriad, nid ystyrrid y cais yn un dilys. O ganlyniad, roeddwn i a ’nghyfoedion yn ailddarllen y ffurflen rhyw bum gwaith y dydd ac wedyn yn chwysu chwartia’ wrth bwyso’r botwm SUBMIT.  A dyna beth arall: pe baech chi’n hwyr yn pwyso’r botwm cyflwyno, fyddai’ch cais ddim yn cyfrif, a ’fyddai hi ddim yn bosib i chi gael swydd y flwyddyn honno. Mi fuasai’n rhaid aros tan y flwyddyn ganlynol. Lloerig!

Yn ffodus, mi dderbyniwyd fy ffurflen i. Yna, derbyniais ddyddiad a lleoliad y cyfweliad ganol Hydref . Roedd f’un i yng nghae pêl droed Newcastle, St James’ Park, ganol Tachwedd. Roedd y cyfweliadau’n cael eu cynnal dros ddau ddiwrnod ac roedd myfyrwyr o Leeds a Newcastle yn dod i’r ganolfan honno. Yn lwcus i mi, doedd St James ond megis i lawr y lôn o ble’r oeddwn i’n byw, tra oedd y myfyrwyr druan o Leeds wedi gorfod codi cyn y wawr a theithio ar y trên am ddwyawr er mwyn cyrraedd mewn pryd.

Roedd rhaid cyflwyno dau gerdyn adnabod gwahanol, gydag un yn cadarnhau’r cyfeiriad roeddech chi wedi’i roi ar y ffurflen wreiddiol.  Wedyn, fe ddechreuodd yr asesiad a oedd yn para am ddwy awr a chwarter. Strwythur yr asesiad oedd tair stesion – dwy stesion gyf-weld a oedd yn para am 10 munud yr un ac un prawf ysgrifenedig 105 munud o hyd.

Stesion 1: Cyfathrebu mewn sefyllfa glinigol

Stesion 2: Proffesiynoldeb, rheolaeth ac arweinyddiaeth

Roedd y prawf ysgrifenedig yn Brawf Barn Sefyllfaol. (Oedd, roedd angen geiriadur i ddeall y teitlau ar rannau o’r cyfweliad hyd yn oed!)

 

Stesion 1

Roedd y stesion gyfathrebu yn stesion gydag un cyfwelwr ac un actor. Cyn mynd i mewn i’r ystafell, roedden ni’n cael darn o bapur ac arno sefyllfa glinigol y caem bum munud i’w darllen. Yna, roedd rhaid mynd i siarad efo’r actor neu’r actores am y sefyllfa. Roedd y cyfwelwr yn eistedd yn y gornel, yn gwylio a chymryd nodiadau ond heb fod yn cymryd rhan.

Y sefyllfa a gefais i oedd fod ‘claf’ wedi dod i ’ngweld i, yr FD, am apwyntiad brys ar ôl syrthio a thorri un o’i ddannedd blaen. Yn ffodus i mi, roedd hyn yn eithaf tebyg i sefyllfaoedd roeddwn i’n eu gweld yn y clinig brys yn y coleg, ac felly mi geisiais i gadw at be’ fuaswn i’n ’i wneud yn y sefyllfa honno. Dechreuais drwy fy nghyflwyno fy hun a chadarnhau manylion personol y claf, cyn holi am ei gŵyn. Roedd marciau’n cael eu rhoi am y cwestiynau clinigol yn ogystal â’r dulliau cyfathrebu. Roedd medru dangos empathi a chonsyrn yn bwysig, yn ogystal â deall a rheoli disgwyliadau’r claf.

 

Stesion 2

Roedd trefn yr ail stesion yn eithaf tebyg i stesion 1. Fe gefais ddarn o bapur efo’r sefyllfa glinigol arno cyn mynd i mewn i’r ystafell. Y tro hwn, roedd ’na ddau gyfwelwr. Roedd rhaid siarad am y sefyllfa dan sylw, a sut y buaswn i’n datrys y broblem. Doedd gan y cyfwelwyr ddim hawl i gyfathrebu efo fi, dim ond i ofyn pedwar cwestiwn penodol i’m hannog i pe bai angen gwneud hynny. Roedd hon yn sefyllfa ryfedd iawn, achos roeddwn i fwy neu lai yn siarad yn uchel efo fi fy hun am ddeng munud cyfan.

Y sefyllfa a gefais i oedd fod fy nyrs ddeintyddol yn achosi problemau yn y gweithle. Roeddwn i wedi bod yn ymarfer mewn ffug sefyllfaoedd efo fy nghyfoedion cyn y cyfweliad, a’r prif beth a ddysgais oedd y dylwn wneud yn siŵr fod ’na strwythur i’r naratif. Y ffordd fwyaf effeithiol i wneud hynny oedd mynd drwy bob un o 9 safon y GDC (Standards for the Dental Team) a’u gwneud yn berthnasol i’r sefyllfa. Er enghraifft, Safon 1: Rhoi lles y claf yn gyntaf; os ydi’r nyrs yn achosi problemau, gellid gweithio gyda nyrs arall o bosib nes i’r broblem gael ei datrys, i wneud yn siŵr fod y claf yn cael y gofal gorau bosib. Safon 6: Gweithio gyda chydweithwyr mewn ffordd sy’n rhoi lles y claf yn gyntaf; os oes tensiwn rhyngoch chi a’r nyrs, ceisio datrys y broblem yn y ffordd symlaf i ddechrau, drwy drafod y broblem yn breifat efo’r nyrs a chydag aelod diduedd o’r staff yn bresennol, pe bai hynny’n bosib.

 

Y Prawf Barn Sefyllfaol

Mae’r prawf hwn o’r enw Situational Judgement Test (SJT) yn brawf ar sefyllfaoedd clinigol amrywiol. Mae pob cwestiwn yn amlinellu sefyllfa glinigol wahanol efo amrywiaeth o ymatebion gwahanol ac roedd rhaid rhestru’r atebion yn ôl pa drefn oedden nhw fwyaf addas. Roedd gynnon ni 105 munud i gwblhau’r prawf, ac, yn fy marn i, roedd hynny’n ddigon o amser ond dim ond o drwch blewyn – doedd dim amser i ailddarllen y gwaith. Roedd gwneud ffug brawf ar y we yn ddefnyddiol iawn – mae enghraifft ar gael ar wefan COPDEND.

 

Wedi’r cyfweliad

Ar ôl diwrnod anodd a heriol, roedd rhaid aros am bron i ddau fis, tan ddechrau Ionawr, i glywed sut yr aeth hi. Roedd pawb yn cael eu rhestru o 1 i 1299 yn dibynnu ar eu sgôr yn y tri asesiad.  

Yn 2016, roedd oddeutu mil o leoedd DFT ar gael ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Roedd y rhain wedi cael eu dosrannu’n chwe deg a phump o gynlluniau daearyddol. Roedd chwe deg tri o’r rheini’n dechrau ym mis Medi a dau gynllun yn dechrau ym mis Mawrth. Mae’r Alban yn gweithredu proses ar wahân. Roedd y swyddi’n cael eu rhannu yn ôl eich safle ar y rhestr o 1 i 1299.

Felly, rhwng y cyfweliad a’r canlyniadau, roedd rhaid asesu chwe deg tri o’r cynlluniau (doedd dim pwrpas asesu dau ohonynt, gan na fuaswn i wedi cael y cymhwyster mewn pryd i ddechrau ar y swydd ym mis Mawrth). Wedyn roedd rhaid rhestru’r cynlluniau yn ôl lle y byddem ni’n hoffi gweithio. Roedd hyn i gyd yn gorfod cael ei gwblhau cyn i ni wybod canlyniad y cyfweliad, felly roedd rhaid gweddïo a gobeithio ein bod wedi gwneud ddigon da i gael ein lleoliad cyntaf. Wrth gwrs, roedd hi’n beth doeth rhestru’r 63 lle, oherwydd pe bai’r unig le gwag posib i chi yn un nad oeddech chi wedi ei restru, ’fyddech chi ddim yn cael swydd y flwyddyn honno.

Ganol Ionawr, cawson ebost yn dweud bod y cynnig swydd wedi ei gyhoeddi ar Oriel. Roedd hyn yn swmp o wybodaeth i gael ei gyhoeddi i gyd ar yr un pryd. Roedden ni’n cael gwybod ein safle personol a’r lleoliad ble’r oedd y swydd yr oedden ni wedi cael ei chynnig. Roeddwn i’n ffodus i gael fy ngosod yn y 200 uchaf a chael cynnig swydd yng Ngogledd Cymru – fy newis cyntaf. Doedd rhai o’m ffrindiau ddim wedi bod mor lwcus. Roedd un ohonyn nhw wedi cael ei gosod ychydig is na 1000 ac wedi cael cynnig swydd yn y lleoliad a osodwyd ganddi yn rhif 60. Roedd ambell un arall wedi cael eu gosod yn rhy isel i gael lle o gwbl. Roedd gynnon ni 48 awr i dderbyn y swydd. Yn fy achos i, doedd dim rhaid meddwl ddwywaith. Os oeddech chi’n gwrthod y swydd, chaech chi ddim dewis arall, a byddai’n rhaid i chi ymgeisio eto y flwyddyn ganlynol.

Roedd ’na ddewis hefyd i dderbyn y swydd neu ddewis uwchraddio. Roedd dewis uwchraddio yn golygu pe na baech wedi cael cynnig un o’ch dewisiadau uchaf y byddai’n bosib i chi gael eich uwchraddio pe bai swydd yn dod ar gael am ba bynnag reswm. Mantais hynny ydi ei bod hi’n dal yn bosib i chi gael eich lleoliad delfrydol. Yr anfantais ydi y byddech efallai wedi dygymod efo’r syniad o fyw a gweithio yn y lle y cawsoch eich gosod, ac y byddai’n rhaid i chi wedyn,  ymhellach ymlaen, ailasesu’ch sefyllfa a dod i arfer efo’r syniad o fyw mewn lle gwahanol.

 

Dewis hyfforddwr

Ar ôl cael gwybod ym mha ardal y byddwch chi’n treulio’r flwyddyn nesaf, rhaid penderfynu yn union ymhle y byddwch chi a phwy fydd eich hyfforddwr. Mi fydd y rhan fwyaf o ardaloedd yn cynnal digwyddiadau ‘Cyfarfod yr Hyfforddwyr’ o gwmpas y Pasg. Yng Ngogledd Cymru, digwyddodd hyn yn Ysbyty Glan Clwyd ganol fis Ebrill.

Roedd yno ddeg hyfforddwr a deg ohonom ni fyfyrwyr oedd wedi cael ein lleoli yng Ngogledd Cymru. Roedd gynnon ni 15 munud i siarad efo pob hyfforddwr, a hynny’n rhoi cyfle i holi am strwythur y practis, trafod diddordebau clinigol a phersonol yn ogystal â chael cyflwyniad i’r ardal benodol. Mwy neu lai yn union fel strwythur ‘speed dating’!

Ar ôl cyfarfod pob un, roedd rhaid i ni restru pob hyfforddwr o un i ddeg yn ôl hoffter – ymhle a chyda phwy fyddai orau gynnon ni weithio. Yna roedd yr hyfforddwyr yn gwneud yr un peth amdanon ni. Roedd y canlyniadau’n cael eu cyfochri ac roedden ni’n cael ein paru o ganlyniad. Dyna sut y des i i weithio yng Nghaergybi.

Roedd y system hon yn eithaf unigryw. Roedd y system dros y rhan fwyaf o ardaloedd Lloegr yn debyg, ond doedd yr hyfforddwyr yno ddim yn rhestru’r myfyrwyr. Yn hytrach, roedd myfyrwyr yn cael eu gosod efo hyfforddwyr yn ôl eu safle ar y rhestr wedi’r cyfweliad cenedlaethol. Hynny yw, roedd y person â’r safle uchaf yn yr ardal honno, i bob pwrpas, yn cael eu dewis cyntaf o hyfforddwr.

 

Ac yn olaf ...

Mae’r system recriwtio DFT yn un gymhleth a dirboenus ond fel y soniais uchod, er gwaethaf ei gwendidau, mae hi yn system deg.

Mae’r paratoadau angenrheidiol yn cymryd talp o amser prin myfyrwyr deintyddol y bumed flwyddyn. Yr hyn y galla i ei argymell i unrhyw fyfyrwyr presennol ydi’r canlynol:

 

1)     Peidiwch â phoeni’n ormodol am yr holl broses. Paratowch ar bob cyfrif, ond mae ymarfer sefyllfaoedd efo’ch cyfoedion yn hen ddigon o ymarfer. Mae cyrsiau paratoi yn wastraff arian ac amser.

2)     Darllenwch a gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y ddogfen “Standards for the Dental Team” gan y GDC.

3)     Dysgwch beth mae’r holl gyrff deintyddol yn ei wneud – e.e. y BDA, Dental Protection, AGIC, CQC.

4)     Mae gwefan copdend.org yn adnodd ddefnyddiol yn amlinellu’r holl reolau a’r meini prawf sydd ynghlwm â’r broses yn ogystal â ffug brawf SJT.

5)     Peidiwch â digalonni os na chewch chi’ch dewis cyntaf. Mae’r posibilrwydd o dreulio blwyddyn yn rhywle newydd yn gyffrous, yn enwedig pan fyddwch chi’n ennill cyflog.

 

Y dyddiau hyn, mae llawer o swyddi hyfforddi gan gynnwys Dental Core Training yn recriwtio drwy ddefnyddio’r system recriwtio genedlaethol. Mae’r cyfweliad DFT felly yn ymarfer buddiol ac yn brofiad defnyddiol os ydych chi’n meddwl y byddwch chi’n ymgeisio am ragor o swyddi hyfforddiant ym maes deintyddiaeth yn y dyfodol.

 


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol