Adolygiadau

Clinical Problems in Dentistry

Clinical Problems in Dentistry: 50 OSCEs and SCRs for the Post Graduate Dentist

John Laszlo
XLIBRIS, 2013
ISBN - 1493119745

Adolygiad gan Tristan Roberts

Os ydych yn bwriadu cymryd eich arholiadau MJDF neu MFDS, yna mae’r llyfr trwchus hwn (gyda 769 o dudalennau) yn cynnwys cyngor a chymorth cynhwysfawr ar bob agwedd ar yr arholiadau hyn, a hynny o fewn chwe phennod. Mae'r bennod agoriadol yn rhoi syniad cyffredinol i chi o'r hyn y mae'r arholwyr yn chwilio amdano yn ystod yr arholiad, yn ogystal â rhoi arweiniad a chyngor i chi ynghylch sut i lwyddo. Mae'r pum pennod sy’n dilyn yn cynnwys cwestiynau sy'n ymwneud ag Argyfyngau Meddygol, Materion Meddygol, Enghreifftiau Moesegol, Achosion Clinigol, ac yn gorffen gyda Phroblemau Trefniadol.

Nid yw’r llyfr hwn yn gyfyngedig i’r rheini sydd ond yn sefyll arholiadau, gan y gall fod berthnasol a defnyddiol hefyd ar gyfer cwrdd â gofynion DPP pe baech am gasglu rhagor o DPP ar broblemau clinigol mewn deintyddiaeth sy'n unol â chanllawiau 2013 y Cyngor Deintyddol Cyffredinol.

Er bod y gyfrol hon yn darparu sail ardderchog ar gyfer paratoi'r darllenydd ar gyfer yr arholiadau, mae'n rhaid i mi nodi nad ydi darllen y llyfr hwn ar ben ei hun yn gwarantu y byddwch yn pasio’r arholiad. Er mwyn ehangu eich gorwelion yn hyn o beth, ceir ynddo restr hir o gyfeiriadau ar gyfer darllen rhagor o ddeunydd a all fod o gymorth i chi. Byddwn hefyd yn eich argymell i chwilota am yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar y pynciau sy’n cael eu trafod gan John Lazlo yn y llyfr hwn.

Gellwch brynu’r llyfr ar www.amazon.co.uk am £15.76 (neu ar Kindle am £3.83)

Handbook of Orthodontics

Handbook of Orthodontics

Martyn T Cobourne ac Andrew T DiBiase
Mosby Elsevier, Oxford, 2010
ISBN - 9780723434504

Adolygiad gan Gareth Williams

Dyma ychwanegiad newydd at yr amrywiaeth o werslyfrau orthodontig. Cynhwysir 13 o benodau gyda chod lliw fel ei bod yn hawdd dod o hyd i bob pennod.

Mae’r pum pennod gyntaf wedi’u neilltuo at gyfer agweddau gwyddoniaeth sylfaenol gyda thwf cyn- ac ôl-enedigol, datblygiad yr achludiad a symudiad dannedd orthodontig, bob un â phennod ar wahân. Mae’r penodau hyn yn boblogaidd gyda chofrestrwyr orthodontig.

Mae penodau 6 a 7 yn cynnwys diagnosis a chynllunio triniaeth. Mae’r bennod ar ddiagnosis yn trafod ceffalometreg yn estynedig, ac yn ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr orthodontig ôl-raddedig, ond perthnasedd cyfyngedig sydd iddi ar gyfer yr is-raddedig.

Mae penodau 8 a 9 yn cynnwys trafodaeth ar gyferpynnau sefydlog a symudadwy ac yn sôn yn fras am gyflinwyr orthodontig. Mae’r bennod ar gyferypynnau sefydlog yn cyflwyno’u hanes yn gryno. Byddai hyn o gymorth i’r is-raddedig ond eto yn annigonol ar gyfer y myfyriwr ôl-raddedig.

Mae’r tair pennod nesaf yn cynnwys rheoli’r dannedd datblygol parhaol ac orthodonteg ar gyfer oedolion. Mae geneteg dannedd coll a amelogenesis a dentinogenesis amherffaith yn eistedd ochr yn ochr â’r wybodaeth arferol ar reoli deintiad cymysg. Mae’r bennod ar orthodonteg oedolion yn naturiol yn cynnwys gofal amlddisgyblaethol ac yn gorffen ar apnoea cwsg rhwystrol.

Mae’r bennod olaf yn ymdrin â gwefus a thaflod fylchog a syndromau creuanwynebol.

Mae’r llyfr yn llawn lluniau o ansawdd da a darluniau lliwgar, ac yn cynnwys nifer o flychau porffor lle cyflwynir gwybodaeth ar bwnc penodol. Mae nifer fach o gyfeiriadau ar gyfer ‘Darllen pellach’ ar ddiwedd pob pennod.

Mae hwn yn llyfr gwerth ei brynu ac yn debygol o ddod yn destun safonol ar gyfer myfyrwyr orthodonteg.

Medical Problems in Dentistry

Medical Problems in Dentistry

Crispian Scully
6ed Argraffiad, 2010
ISBN - 9780702030574

Adolygiad gan Rhys Tudur Owen

Mae’r llyfr wedi’i drefnu gyda phob pennod yn canolbwyntio ar wahanol gategorïau o feddygaeth. Gyda thri deg a saith o benodau, a thros saith gant o dudalennau, does dim llawer nad yw’r llyfr swmpus hwn yn ymwneud ag ef. Caiff pob problem feddygol ei chyflwyno’n drefnus, gyda thrafodaeth am ffactorau cyffredinol, agweddau clinigol, rheolaeth gyffredinol, ac agweddau deintyddol pob clefyd. Gwneir defnydd helaeth o luniau lliw, tablau, diagramau, tablau-llif, i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd hwylus i’r darllenydd.

Dyma’r argraffiiad diweddaraf o lyfr sydd wedi bod yn boblogaidd ymysg myfyrwyr a deintyddion ers 1982. Mae cynnwys y fersiwn yma wedi cael ei ddiweddaru a’i archwilio gan banel o arbenigwyr i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth. Mae’r llyfr yn cynnwys gwybodaeth ar y canllawiau diweddaraf o fewn deintyddiaeth a meddygaeth.

Mae’r awdur, Crispian Scully, yn gyfarwyddwr prosiectau arbennig yn yr UCL-Eastman Dental Institute; yn athro yn yr UCL; ac yn llywydd y gymdeithas ryngwladol Academi Oncoleg Genol. Mae wedi ysgrifennu a golygu dros ddeugain o lyfrau, a thros gant a hanner o benodau mewn llyfrau eraill.

Gall y llyfr hwn fod o ddefnydd i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio ar gyfer arholiadau, neu ar gyfer deintyddion sydd eisau gwybodaeth fanwl a diweddar ar unrhyw glefyd meddygol.

Mae’r llyfr ar werth yn www.amazon.co.uk am £62.99.


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol