Aelodaeth Y Gymdeithas Ddeintyddol.
Mae croeso i ddeintyddion, gweithwyr gofal deintyddol proffessiynol a myfyrwyr ymuno gyda’r gymdeithas. Rydym yn croesawu pawb sy’n siarad Cymraeg, ynghŷd rhai sy’n dysgu’r iaith, o Gymru a thros y ffin. Gofynwn yn garedig i chi gwblhau y ffurflen ymaelodi hwn a chreu debyd uniongyrchol o £25 i gyfri banc y gymdeithas (manylion isod). Mae aelodaeth am ddim i fyfyrwyr. Diolch am ymuno gyda ni.
Gofynwn yn garedig i chi greu debyd uniongyrchol (direct debit) o £25 i’r cyfri banc isod. Rhowch eich enw fel cyfeirnod i’r taliad.
- Manylion bank:
- Enw: Y Gymdeithas Ddeintyddol
- Cod didoli: 20-35-47
- Rhif cyfrif: 10997641
Ymaelodi
Manteision bod yn aelod:
- cyfle i gyfarfod â chyd-ddeintyddion Cymraeg eu hiaith
- ennill oriau addysg ôl-raddedig
- hwyluso cyfathrebu’n naturiol yn y Gymraeg gyda chleifion a chydymarferwyr
- cael gwybodaeth ynglŷn â digwyddiadau a gynhelir gan y Gymdeithas
- cael dod i gyfarfodydd amrywiol, rhai’n wyddonol ac eraill yn gymdeithasol (e.e. Cinio Gŵyl Dewi)
- hyn oll, a mwy, am £25 y flwyddyn (ond yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr)