Mae prinder mawr o ddeintyddion yng Nghymru ac mae’r gymdeithas yn awyddus iawn i helpu myfyrwyr TGAU a lefel A sydd gyda diddordeb mewn gyrfa yn y maes deintyddol.
Os hoffech gael sgwrs gyda un o ddeintyddion y gymdeithas am yrfa yn y maes deintyddol, neu holi am opsiynau profiad gwaith ac yn y blaen, cysylltwch â ni.
Mae Siwan Phillips, un o aelodau Y Gymdeithas Ddeintyddol, wedi creu canllaw i fyfyrwyr sy’n ymgeisio i fynd i ysgol ddeintyddol. Mae’r canllaw yn llawn cyngor arbennig i helpu unigolion i fod yn llwyddianus yn y broses hynod anodd o ymgeisio am le mewn ysgol ddeintyddol.
Mae safle Instagram Siwan yn llawn straeon am ei phrofiad yn Ysgol Deintyddol Bryste. Dilynwch hi am ysbrydoliaeth a mewnwelediad i fywyd myfyriwr deintyddol.