Y Geiriadur Deintyddol.

Mae’r Gymdeithas Ddeintyddol yn falch o fod wedi cyhoeddi ‘Y Geiriadur Deintyddol’. Mae copiau caled o’r cyhoeddiad ar gael yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â ni am gopi

Pigion o'r Geiriadur Deintyddiaeth.

Dyma ddyrnaid o eirau a thermau o’r geiriadur er mwyn rhoi syniad o batrwm a ffurf y gwaith.

abnormal, abnormal (ans); annormal (ans); ~ frenum, ffrwyn (eg) abnormal (ll. ffrwynau abnormal); nothing ~ discovered (N.A.D.) , dim abnormal wedi’i ganfod (D.A.W.G.)

abnormality, abnormalrwydd (eg); annormaledd (eg)

abrasion, sgriffiad (eg) (ll. sgriffiadau); sgriffio (be); ~ resistant, gwrthsgriffiol (ans); gwrthsefyll (be) sgriffio

abrasive, sgriffiol (ans); ~ disc, disg (egb) sgriffio (ll. disgiau sgriffio); ~ paste, pâst (eg) sgriffio (ll. pastau sgriffio); ~ strip, stribyn (eg) sgriffio (ll. stribynnau/stribiau sgriffio); ~ wheel, olwyn (eb) sgriffio (ll. olwynion sgriffio); air ~, llifanwr (eg) aer (ll. llifanwyr aer)

abscess, crawniad (eg) (ll. crawniadau); gingival ~, crawniad gorchfannol (ll. crawniadau gorchfannol); lateral periodontal ~, crawniad periodontol ochrol (ll. crawniadau periodontol ochrol); palatal ~, crawniad taflodol (ll. crawniadau taflodol); periapical ~, crawniad perifrigol (ll. crawniadau perifrigol); pericemental ~, crawniad perismentol (ll. crawniadau perismentol); pericoronal ~, crawniad perigoronol (ll. crawniadau perigoronol); periodontal ~, crawniad periodontol (ll. crawniadau periodontol); peritonsillar ~, crawniad peritonsilaidd (ll. crawniadau peritonsilaidd); crawniad perigilchwyrnol (ll. crawniadau perigilchwyrnol)

absorb, amsugno (be)

absorbable, amsugnadwy (ans); ~ root-filling paste, pâst-llenwi-gwreiddiau (eg) amsugnadwy (ll. pastau-llenwi gwreiddiau amsugnadwy)

absorbed, amsugnedig (ans); ~ dose, dogn (eg) amsugnedig (ll. dognau amsugnedig); dos (egb) amsugnedig (ll. dosau amsugnedig); integral ~ dose, dogn (eg) amsugnedig cyfannol (ll. dognau amsugnedig cyfannol); dos (egb) amsugnedig c/gyfannol (ll. dosau amsugnedig cyfannol)

absorbent point, pwynt (eg) papur amsugno (ll. pwyntiau papur amsugno)

absorption, amsugnad (eg) (ll. amsugnadau)

abutment, pentan (eg) (ll. pentanau); ~ tooth, dant (eg) pentan (ll. dannedd pentan); transmucosal ~, pentan trawsf[i]wcosol (ll. pentanau trawsf[i]wcosol)

acantholysis, acantholysis (eg)

acanthosis, acanthosis (eg)

accelerator, cyflymydd (eg) (ll. cyflymyddion)

access cavity, agorfa (eb) (ll. agorfeydd)

accessory, atodol (ans); ~ root canal, sianel (eb) atodol y gwreiddyn (ll. sianelau atodol y gwreiddyn)

accretion, croniant (eg) (ll. croniannau)

acetate, asetad (eg); zinc ~, sinc (eg) asetad

ache, poen (egb) (ll. poenau); dolur (eg) (ll. doluriau); gwayw (eg) (ll. gwewyr); cur (eg); brifo (be); tooth~, y ddannoedd (eg)

achondroplasia, acondroplasia (eg)

aciclovir, asiclofir (eg)

acid, asid (eg) (ll. asidau); ~ etch/acid etching, sgythriad (eg) asid (ll. sgythriadau asid); ~ etch retention, dargadw (be) sgythriad asid; 2-ethoxybenzoic ~, asid 2-ethocsibensöig (ll. asidau 2-ethocsibensöig); 2-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid 2-ethocsibensöig (ll. smentiau asid 2-ethocsibensöig); ascorbic ~, asid ascorbig (ll. asidau ascorbig); boracic ~, asid borasig (ll. asidau borasig); ethylenediamine tetra-acetic ~, asid ethylenediamine tetra-asetig (ll. asidau ethylenediamine tetra-asetig); methacrylic ~, asid methacrylig (ll. asidau methacrylig); o-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid o-ethocsi-bensöig (ll. smentiau asid o-ethocsi-bensöig); orthoboric ~, asid orthoborig (ll. asidau orthoborig); ortho-ethoxybenzoic ~, asid ortho-ethocsi-bensöig (ll. asidau ortho-ethocsi-bensöig); ortho-ethoxybenzoic ~ cement, sment (eg) asid ortho-ethocsi-bensöig (ll. smentiau asid ortho-ethocsi-bensöig); orthophosphoric ~, asid orthoffosfforig (ll. asidau orthoffosfforig); phosphoric ~, asid ffosfforig (ll. asidau ffosfforig); poly(acrylic) ~, asid polyacrylig (ll. asidau polyacrylig)

(sef geiriau heb eu cynnwys yn y Geiriadur Deintyddiaeth)

Saesneg – Cymraeg

ethical, moesegol (ans)

prospective, rhagfynegadwy (ans); ~ study, astudiaeth (eb) ragfynegadwy (ll. astudiaethau rhagfynegadwy)

retrospective, adolygol (ans); ~ study, astudiaeth (eb) adolygol (ll. astudiaethau adolygol)

Cymraeg – Saesneg

adolygol (ans), retrospective; astudiaeth (eb) ~ (llastudiaethau adolygol), retrospective study(-ies)

moesegol (ans), ethical

rhagfynegadwy (ans), prospective; astudiaeth (ebragfynegadwy (llastudiaethau rhagfynegadwy), prospective study(-ies)

Pigion O'r Geiriadur Deintyddiaeth

Apêl.

Mae rhai blynyddoedd bellach er pan gyhoeddwyd y Geiriadur Deintyddiaeth ac nid oes amheuaeth, yn yr oes garlamus-dechnegol hon, nad oes toreth o eiriau ‘newydd’ wedi cael eu bathu yn y Saesneg ym maes deintyddiaeth a’r canghennau cysylltiol. Pe baech chi’n gwybod am unrhyw air neu derm nad yw wedi ei gynnwys yn y Geiriadur Deintyddiaeth, byddem yn ddiolchgar iawn pe gallech roi gwybod i’r Gymdeithas Ddeintyddol (gan fentro awgrymu trosiad i’r Gymraeg pe gallech!). Anfonwch eich awgrymiadau at ysgrifennydd@ygymdeithasddeintyddol.com neu defnyddiwch y ffurflen ‘Cysylltwch â ni’.

Cysylltwch â ni

Hanes Y Geiriadur .

Mae’r Geiriadur Deintyddiaeth yn torri tir newydd yn y Gymraeg gan mai dyma’r tro cyntaf erioed i gasgliad o dermau deintyddol gael ei gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Y Gymdeithas Ddeintyddol ei hun fu’n gyfrifiol am y treuliau cyhoeddi ond mae’n bwysig cydnabod i Adran Ddeintyddol Ôl-Raddedig Prifysgol Caerdydd ysgwyddo’r costau argraffu i gyd.

Lansiwyd y gyfrol arloesol hon yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Ddeintyddol yng Ngwesty’r Thistle, Caerdydd, ddydd Sadwrn, Mehefin 18, 2005, ac yn ystod y cyfarfod, gyda Llywydd y Gymdeithas, Siôn M. Griffiths, yn y Gadair, a rhai o aelodau o Fwrdd yr Iaith hefyd yn bresennol, gwrandawyd ar Dr Ieuan Parri a J. Elwyn Hughes yn adrodd ychydig o hanes llunio’r Geiriadur – gwaith rhan amser a ddechreuwyd ryw bedair blynedd ynghynt pan ymgymerodd J. Elwyn Hughes â’r gorchwyl o fod yn Olygydd Cyffredinol y gwaith. Codwyd Panel Termau i’w gynorthwyo, yn cynnwys Dr Gareth Davies, Cadeirydd y Gymdeithas Ddeintyddol, Mr William Parry, Orthodontegydd Ymgynghorol Ysbyty Gwynedd, a’r deintyddion Bryn Morris Jones a Carys Harper Lloyd, ac fe wahoddwyd Dr Ieuan Parri i fod yn Ymgynghorydd Meddygol.

Wrth gloi’r cyfarfod hanesyddol hwn, cyflwynodd J. Elwyn Hughes gopi cyntaf y Geiriadur Deintyddiaeth i Einir, gweddw T. Arfon Williams (a roes sbardun i ddechrau’r holl waith drwy drosi rhyw 400 o dermau). Erbyn hyn, tyfodd y 400 gan Arfon i fod rhwng 5000 a 6000 o dermau, a’r cyfan wedi eu croesgyfeirio er hwylustod i’r defnyddiwr, mewn 180 o dudalennau A5. [Ar hyn o bryd, geiriadur un-ffordd ydyw, sef o’r Saesneg i’r Gymraeg.]

Anfonir copi o’r Geiriadur Deintyddiaeth at yr holl fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith sy’n cael eu hyfforddi i fod yn ddeintyddion ac fe obeithir y gwneir defnydd ymarferol helaeth ohono. Ceir ffurflen isod ar gyfer archebu eich copi o’r Geiriadur.

“….. Fel y gellid disgwyl, daeth y Panel Termau, fel y daethpwyd i’w alw, ar draws nifer o anawsterau. Er enghraifft, doedd y gair gên ddim digon da i gyfieithu jaw a chin i’r Gymraeg – roedd angen dau air gwahanol. Penderfynwyd ar gên am jaw a blaen yr ên am chin (er ein bod yn ymwybodol bod genau, sef ffurf luosog gên, hefyd yn air arall am y geg). Yn yr un modd, oherwydd mai bwa a arferid am arch a bow, penderfynwyd defnyddio bwa am arch a chynnig gair ‘newydd’, sef crymyn, am bow. A chafwyd cryn drafod ynghylch y gair dental, gan fod gennym eisoes ddau air yn Gymraeg, sef deintyddol a deintiol. Penderfynwyd mabwysiadu deintiol mewn perthynas â dant neu ddannedd a deintyddol i ddisgrifio’r maes neu’r wyddor yn gyffredinol (er bod gorgyffwrdd yn anochel o bryd i’w gilydd). Bu trafod hefyd ar yr angen i adlewyrchu ynganiad gair yn y ffordd y sillefid ef, a bod mor gyson ag y bo modd yn hynny o beth (er enghraifft: f[e]irwsff[e]ibrm[i]wcosat[i]wbercwl, etc., gan gynnwys bachau petryal […] i ddynodi bod dewis gan y defnyddiwr). Weithiau, cafwyd bod dau air neu ymadrodd (ac weithiau dri) yn Saesneg yn golygu’r un peth yn union fel, er enghraifft, approximalintraproximal a proximal; bodlonwyd ar un gair yn unig, sef cyffyrddol, yn Gymraeg. O safbwynt rhai termau cemegol, penderfynwyd (yn ddigon anfoddog, mae’n rhaid dweud) y dylid dilyn y drefn arferedig yn Saesneg (h.y., trosi zinc oxide, er enghraifft, yn sinc ocsid, er mai ocsid sinc fyddai gywiraf o ran ystyr). Er hwylustod, aethpwyd ati i groesgyfeirio’r rhan fwyaf o’r cofnodion, sy’n golygu y gellir dod o hyd i gyfieithiad o acute necrotizing ulcerative gingivitis, er enghraifft, dan y pedwar gair unigol….”

Ychydig enghreifftiau’n unig a gynhwysir yn y paragraff uchod i awgrymu dyfnder a manylder y trafodaethau a gynhaliwyd gan aelodau’r Panel Termau. Cafwyd barn nifer o ddeintyddion ar sawl drafft o’r gwaith a derbyniwyd awgrymiadau adeiladol yn ogystal ag ychwanegiadau angenrheidiol. Yn ogystal ag edrych ar restrau termau sydd eisoes ar gael mewn meysydd cysylltiol, mae’n deg i ni gydnabod ein bod wedi ymgynghori’n helaeth â Geiriadur yr Academi ac wedi cael llawer o fudd o wneud hynny. Dylid ychwanegu, fodd bynnag, fod y Panel wedi teimlo ar adegau nad oedd ambell gynnig a welwyd yn ddigon penodol neu’n ddigon manwl a phwyswyd yn drwm ar brofiad ac arbenigedd y deintyddion a’r ymgynghorydd meddygol i gyrraedd at union ystyr y gair yn Gymraeg.