Amdanom ni.

Sefydlwyd Y Gymdeithas Ddeintyddol yn 1991 ac mae’n parhau i fynd o nerth i nerth.

Y pwyllgor.

Gadewch i ni wybod os hoffech ymuno gyda’r pwyllgor i hybu gwaith y gymdeithas. Byddai’n wych cael eich cefnogaeth.

Swyddogion y Gymdeithas

Hanes Y Gymdeithas Ddeintyddol

Hanes y Gymdeithas Ddeintyddol.

Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1991 ar ôl cylchlythyru nifer o ddeintyddion yng Ngwynedd a Chlwyd. Ym mis Hydref 1991, cynhaliwyd cyfarfod yn Llandudno pryd yr enwebwyd y Bnr T. Arfon Williams, Swyddog Deintyddol y Swyddfa Gymreig, yn Gadeirydd. Penderfynwyd mai prif ddiben y Gymdeithas fyddai hybu trafodaeth ar ddeintyddiaeth yn yr iaith Gymraeg. Yn y cyfarfod nesaf, a gynhaliwyd ym mis Ionawr 1992, gwahoddwyd Dr Bruce Griffiths i drafod ‘Geirfa a Thermau Deintyddol’. Cafwyd trafodaeth frwd a phwyswyd ar gyngor a phrofiad y geiriadurwr. Ym mis Mai 1992, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol gyntaf y Gymdeithas yng Ngwesty Penbontbren, Glynarthen, a braf oedd clywed rhai o’r termau deintyddol yn cael eu defnyddio’n naturiol a llithrig.

Yng nghyfarfod blynyddol cyntaf y Gymdeithas, mabwysiadwyd cyfansoddiad drafft, a chyhoeddwyd rhaglen ar gyfer y flwyddyn academaidd. Roedd Cyfarwyddwr Addysg Ôl-Raddedig Cymru yn cydnabod cymhwyster darlithoedd er mwyn gallu hawlio lwfans addysgol gan ymarferyddion cyffredinol. Penderfynwyd cynnal Cynhadledd yn flynyddol, gan gyfarfod ym 1993 yng Nglynarthen eto. Ar y dechrau, tanysgrifiadau’r aelodau a nawdd gan gwmnïau masnachol oedd yn ariannu’r Gymdeithas ac fe dderbyniwyd nawdd gan y B.D.A. hefyd.

Hanes y Gymdeithas Ddeintyddol

Dyma restr o rhai o leoliadau’r Cynadleddau dros y blynyddoedd ynghyd ag enwau’r siaradwyr gwadd ar yr achlysuron hynny.

Adroddiadau a hanesion.

Dydd Sadwrn, Hydref 8, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd.

Ar achlysur dathlu pen-blwydd y Gymdeithas yn 25 oed.

Ddydd Sadwrn, Hydref 8, yng Ngwesty’r Hilton, Caerdydd, daeth yn agos i ddeugain o Gynadleddwyr ynghyd i ddathlu carreg filltir nodedig yn hanes y Gymdeithas Ddeintyddol, sef ei phen-blwydd yn 25 oed.

Pwyllgor y Gymdeithas, dan gadeiryddiaeth Dr T. Rhys Davies, oedd wedi bod yn gyfrifol am drefnu’r Gynhadledd a chafwyd cymorth sawl aelod i ysgwyddo elfennau o’r paratoadau, gan gynnwys trefnu’r gwesty, y siaradwyr, a’r rhaglen yn gyffredinol.

Roedd dwy ddarlith wedi eu trefnu ar gyfer y bore a chan bwysiced y maes, gofynnwyd i Dr Cellan Thomas draddodi’r naill ddarlith a’r llall, gydag egwyl am banad rhwng y ddwy. Cydnabyddir Cellan yn awdurdod yn ei faes, yn rhinwedd ei swydd fel Ymgynghorydd Macsilo Wynebol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd, yn flaengar a blaenllaw mewn triniaethau a thechnegau. Testun y ddarlith gyntaf oedd Llawdriniaeth Macsilo Wynebol yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, o’r diagnosis i’r driniaeth, gan drafod y datblygiadau diweddaraf’. Yn ei ail gyflwyniad, ei destun oedd ‘Camdyfiannau, anafodau cyn-ganseraidd ac anffurfiadau malaen a allai fod yn beryglus’. Nid oes amheuaeth na fu ei gyflwyniadau manwl a phwrpasol o fudd i bawb oedd bresennol.

Teyrnged ragorol T. Rhys Davies i’r diweddar ddeintydd amryddawn a phoblogaidd, Robert Jones, Bangor, a ddilynodd. Doedd Rhys ei hun ddim yn gallu bod yn bresennol oherwydd profedigaeth yn y teulu rai dyddiau yng nghynt ac fe gyflwynwyd ei deyrnged gan Dr J. Elwyn Hughes. Caiff y deyrnged ei chyhoeddi mewn man arall ar wefan y Gymdeithas.

Daeth sesiynau’r bore i ben gyda’r Cyfarfod Blynyddol a bydd Elen, Ysgrifennydd ddiwyd ac ymroddgar y Gymdeithas, yn anfon atoch gofnodion y cyfarfod hwnnw yn y man. Mae’n werth nodi un neu ddau o faterion yn y cyfamser:

  1. Ni lwyddwyd i godi Cadeirydd newydd yn dilyn gwaith da Stephen Keen yn y swydd y llynedd ond roeddem yn falch o gael cyhoeddi fod T. Rhys Davies sydd eisoes yn llenwi’r bwlch am y tro yn fodlon parhau’n Gadeirydd nes y gellir penodi rhywun arall cyn gynted ag y bo modd.
  2. Mae gennym le i ymfalchïo bod tri aelod wedi gwirfoddoli i fod yn aelodau o’r Pwyllgor.
  3. Gwnaed apêl gan ein gwefeistr newydd, Prysor Aled, am gyfraniadau i’w cynnwys ar y wefan – bydd croeso i unrhyw fath o ddeunydd a all fod o ddiddordeb i aelodau’r Gymdeithas – lluniau, ysgrifau, adroddiadau, adolygiadau, etc.
  4. Gofynnwyd i’r aelodau gyflwyno syniadau, drwy’r Ysgrifennydd, ar gyfer Gwobrau’r Gymraeg mewn Addysg Iechyd. Yn ddelfrydol, byddid yn hoffi gallu cynhyrchu deunydd(iau) a fyddai’n dangos perthynas dda a buddiol rhwng deintyddion a’u cleifion.
  5. Calendr Gweithgareddau 2017. Dyma’r rhaglen fel y saif ar hyn o bryd – daw cadarnhad yn y man:
  • Cinio Gŵyl Dewi yn Nant yr Odyn, Llangristiolus, naill ai ar Chwefror 25 neu Fawrth 4, (i’w gadarnhau ar ôl cytuno ar siaradwr);
  • Darlith gan Gareth Davies yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno, Ebrill 5, 2017, am 7.00 o’r gloch;
  • Taith Gerdded, Gorffennaf 17, 2017 – manylion i ddilyn.

Ar ôl cinio, cafodd y cynadleddwyr eu difyrru gan anerchiad diddorol y gŵr gwadd, Huw Edwards – hon oedd Darlith Goffa T. Arfon Williams, un o sefydlwyr y Gymdeithas Ddeintyddol. Soniodd am ei waith ar y teledu, yn gyflwynydd newyddion a hefyd yn ymddangos ar raglenni dogfen (fel yr un y mae newydd ei recordio am hanes trychineb Aber-fan ym 1966). Ein braint oedd gwrando ar Gymro Cymraeg sydd wedi dringo i uchelfannau byd y cyfryngau.

Yna cafwyd egwyl i ddathlu pen-blwydd y Gymdeithas gyda llymaid o Brosecco a thamaid o gacan pen-blwydd a wnaed gan fam yng nghyfraith Elen, ein Hysgrifennydd, gydag adloniant cefndirol ar y delyn gan Llywelyn Telyn, sef Llywelyn Ifan Jones.

Yn dilyn hynny, Llywydd y Gymdeithas, William J. Parry, a gyflwynodd, drwy gyfrwng stori a llun, hanes sefydlu’r Gymdeithas Ddeintyddol chwarter canrif yn ôl – cyflwyniad cynhwysfawr a diddorol, dan y teitl, ‘Atgofion Chwarter Canrif y Gymdeithas Ddeintyddol’.  Da o beth fyddai cael cynnwys y ddarlith – a’r lluniau – ar y wefan hon yn y dyfodol agos.

Cystadleuaeth Tlws Coffa Bryn Morris Jones oedd yn cloi’r Gynhadledd a chafwyd cyflwyniadau difyr a ffres gan Meilir Evans (am ei brofiadau deintyddol yn Tonga) a chan Euros Jones (ar y testun ‘Canser ar y laryncs’). Cyflwynwyd Tlws Bryn i’r ddau am gymryd rhan ac am ehangu ein gorwelion ond yr un a haeddodd Dystysgrif yn ychwanegol oedd Euros.

Cafodd Robat Jones ei fagu’n fab i chwarelwr ym mhentref bychan y Fachwen, uwchlaw Deiniolen, yn Eryri. Wedi cwblhau ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, aeth ymlaen i astudio deintyddiaeth yn Lerpwl a graddio ym 1973.

Ar ôl treulio cyfnod yn ddeintydd yn Coventry, daeth yn ôl i Gymru a sefydlu practis ym Mangor.

Cefais y fraint a’r plesar o adnabod Robat a chydweithio efo fo, ar ôl i ni gyfarfod gyntaf ddiwedd y saith degau.

Mi fûm yn gweithio yn ei ddeintyddfa yn Ffordd y Coleg, Bangor, am oddeutu tair blynedd, a dw i’n dal i gofio i’r adeg honno fod yn gyfnod hapus iawn i mi, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mi hoffwn bwysleisio hefyd fy mod wedi gwerthfawrogi’r cyfle bryd hynny i ddod i adnabod Eirian, gwraig Rob, a’u dwy ferch, Alison a Jennifer.

Mae’n wir dweud i mi ddysgu cymaint mwy gan Rob nag a wneuthum yn y ddwy ddeintyddfa arall y bûm yn gweithio ynddyn nhw cyn ymuno â Robat. Ac mi hoffwn atgoffa pawb nad oedd, yn y cyfnod hwnnw, mo’r fath beth â Hyfforddiant Galwedigaethol i ddeintyddion.

O edrych yn ôl, mae’n syndod meddwl pa mor frawychus oedd pethau pan allai deintydd yn y cyfnod hwnnw fynd ati i agor practis yn syth bin ar ôl graddio a bod yn gymwys i roi anaesthetig cyffredinol yn y gadair yn ei ddeintyddfa!

Ni fyddai dweud bod Rob yn gallu troi ei law at bob math o bethau yn deud y gwir i gyd amdano fo nac yn gwneud cyfiawnder â’i amryfal alluoedd. Yn wir, datblygodd i fod yn feistr ar sawl crefft yn ogystal â deintyddiaeth.

A throi i ddechra at ddeintyddiaeth. Mae’n briodol dweud iddo ennill ei blwyf yn ei faes drwy Ogledd Cymru gyfan yn fuan iawn ar ôl agor ei bractis ym Mangor yng nghanol y saith degau. Daeth yn uchel ei barch nid yn unig ar sail safon dechnegol ei waith ond hefyd fel cyfaill i lawer ac aelod o sawl pwyllgor deintyddol. Mi fu’n weithgar iawn gyda’r BDA, yn cadeirio pwyllgora ac yn aelod selog o gangen y Gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru. Cynrychiolodd ddeintyddion ar y GDSC yn Llundain, y WGDSC yng Nghaerdydd ac ar yr LDC yng Ngwynedd.

Daeth hefyd yn llefarydd ar ein rhan ni, Y Gymdeithas Ddeintyddol, a’r BDA, a chlywid ei lais cyfarwydd yn aml ar y radio a byddai’n ymddangos hefyd ar y teledu o bryd i’w gilydd. Byddai bob amser yn cyflawni ei ddyletswydd yn gwbl broffesiynol a difyr.

Un diddordeb arbennig gan Robat, un y bûm yn dyst cynnar ohono, oedd hud a lledrith neu gonsurio. Dechreuodd hynny’n ddigon diniwed, trwy gipio anrheg Nadolig o ddwylo un o’i blant a gwneud iddo ddiflannu o dan eu trwynau. Dyna fu’r man cychwyn digon syml ond ’fu Robat ddim yn hir iawn cyn datblygu meistrolaeth lwyr a chyflawn ar y gamp yn gyffredinol. Yn wir, cyrhaeddodd safon mor broffesiynol nes cael ei dderbyn yn aelod o’r Magic Circle a chael hefyd ei gyfres ei hun ar S4C. Mi fydd ambell un sydd yma heddiw yn cofio fel y byddai ambell gyfarfod a chynhadledd ddeintyddol yn cael ei bywiogi gan Rob a’i gastiau!

Bu Robat yn aelod o’r Clwb Rotary ym Mangor am gyfnod maith o dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn adnabyddus fel un garw a llwyddiannus am godi arian at achosion da drwy gynnal ambell gabaret neu redeg ocsiwn.

Mae’n rhaid crybwyll rŵan y cyfnod pan nad oedd modd yn y byd i ddenu Rob i hedfan gan gymaint oedd ei ofn o fentro mewn awyren i’r entrychion. Ond daeth tro ar fyd pan gafodd o ‘hediad prawf’ yn anrheg. Mi fu’i droëdigaeth yn gwbl ysgytwol: cyn pen dim, roedd o nid yn unig wedi ennill ei drwydded peilot ond roedd o hefyd wedi cael ei godi’n Llywydd Clwb Hedfan Mona ac yna’n un o’r Ymddiriedolwyr. Hedfanodd yn helaeth o gwmpas gwledydd Prydain a thros Ewrop hefyd.

Yn ogystal â’r hwyl a gâi yn yr awyr, câi lawer o bleser, hefyd, yn hwylio ar y môr, ac yn mordwyo o gwmpas arfodir Cymru yn fynych. At hynny, manteisiodd ar y cyfle i ddatblygu ei sgiliau mewn sgwba blymio a thynnu lluniau ochr yn ochr â hynny yn ystod ei anturiaethau.

Ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd arlunio, cyfeirio ralïau ceir, a cheir clasurol. Bu’n athro Ysgol Sul … yn wir, roedd rhestr diddordebau’r gŵr amryddawn ac amlochrog hwn yn helaeth ac amrywiol iawn.

A chofiwn fod Rob yn dilyn ei holl ddiddordebau gydag afiaith ac ymroddiad, bob amser yn awyddus i gyfrannu, gan arwain drwy esiampl yn ddi-feth. Ar y naill law, roedd yn berson diymhongar ond eto mor barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu gyda golwg ar gyflawni.

Er ei holl ddiddordebau a’i ddoniau, ei brif ymroddiad oedd ei ffyddlondeb i’w deulu, ei wraig, Eirian a’r genod, Alison a Jennifer, a’u plant nhw – roedd gynno fo bedwar o wyrion – ac yntau’n meddwl y byd ohonyn nhw bob yr un.

Buom yn hynod ffodus fel Cymdeithas i fod wedi cael y fraint a’r pleser o’i adnabod a mwynhau ei gwmni o’r dyddiau cynnar.

Gresyn nad ydi o yma efo ni heddiw, ond diolch amdano.

Title
Darlith Dathlu Chwarter Canrif
Cinio Gwyl Ddewi 2013
Adroddiad Cynhadledd 2013
Cinio Nadolig y Gymdeithas Ddeintyddol 2012
Cynhadledd y Gymdeithas 2012
Darlith ‘Cynllunio Triniaethau’ gan Dr Meic Lloyd Hughes
Taith Gerdded Y Gymdeithas Ddeintyddol 2012

    Ysgrifau coffa.

    Yn anffodus, mae nifer o aelodau blaenllaw Y Gymdeithas Ddeintyddol wedi ein gadael. Cofiwn yn annwyl iawn am yr aelodau hyn. Mae ein colled yn enfawr.

    T Arfon Williams.

    1935-1998

    Un o Dreherbert, Cwm Rhondda, oedd T. Arfon Williams ac fe dderbyniodd ei hyfforddiant proffesiynol yn Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain.

    Pan oedd yn ddeintydd ym Mhenmaen-mawr, cyfarfu ag Einir Wynne Jones – ‘gem o wraig ddigymar’, ys dywedodd Arfon amdani.

    Gadawodd Benmaen-mawr i ddychwelyd i’w fro enedigol fel Swyddog Deintyddol yn y Rhondda ac wedyn yn Abertawe. Yna, ym 1970, cafodd ei benodi’n Swyddog Deintyddol yn y Swyddfa Gymreig, Caerdydd, ac ym 1985-86, cafodd ei godi’n Brif Swyddog Deintyddol dros Gymru.

    Ar ei ymddeoliad, symud i’r Wern, Caeathro, ger Caernarfon, a dyma gyfnod ei weithgarwch mawr gyda’r Gymdeithas Ddeintyddol y bu â rhan yn ei sefydlu ym 1991. Ef oedd ei Chadeirydd cyntaf a bu’n ysbrydoliaeth o ran defnyddio’r iaith Gymraeg yn ei waith.

    Mae’n siŵr y byddai wedi bod yn falch iawn o weld yr hedyn a blannodd yn dwyn ffrwyth ar ffurf y Geiriadur Deintyddiaeth.

    Ond roedd Arfon yn fwy na dim ond deintydd – er mor llwyddiannus yn ei faes. Roedd o hefyd yn Gristion pybyr ac yn fardd.

    Ym 1974, dechreuodd ymddiddori yn y gynghanedd a datblygodd i fod yn feistr arni. Daeth yn englynwr adnabyddus – yn arbennig ar gorn yr englyn un-frawddeg – englyn Arfonaidd. Bu’n aelod blaenllaw o’r Gymdeithas Gerdd Dafod a chyfrannwr rheolaidd i’w chylchgrawn Barddas. Enillodd wobrau sawl gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd Englynion Arfon (1978), Annus Mirabilis (1984), Cerddi Arfon (1996), ac Ynglŷn â Chrefft Englyna (Gol.) (1981). Fe olygwyd Englynion a Cherddi T. Arfon Williams : Y Casgliad Cyflawn gan Alan Llwyd yn 2003.

    Un o’r cerddi olaf a ysgrifennodd Arfon – a ffefryn gan ei briod, Einir, a’r teulu – oedd yr englyn a luniodd i’r Olwyn Ddŵr ar dir y Wern – ‘englyn iasol,’ yn ôl Dafydd Islwyn, ‘sy’n ein hannog i edrych yn ddyfnach ar ein profiadau, i edrych arnynt o ongl gwbl newydd, ac englyn sy’n cadarnhau nad oes i ni yma ddinas barhaus’. Dyma’r englyn:

    Gyda’r gaea’n troi’n wanwyn rhoi yn hael
              a wna’r nant bob galwyn
        o’i dŵr hi, a gweld yr wy’
        na reolaf yr olwyn.

    Yn ei Gyflwyniad i Englynion a Cherddi T. Arfon Wlliams – Y Casgliad Cyflawn, dywed y Prifardd Emyr Lewis fod yr englyn hwn ‘yn crisialu athroniaeth, a phersonoliaeth dawel, obeithlon a dirodres Arfon Williams’.

    Mae’n briodol iawn bod y Gymdeithas Ddeintyddol wedi sefydlu Darlith Goffa Flynyddol er cof am T. Arfon Williams.

    Bryn Morris Jones.

    1957- 2012

    gan Dr J. Elwyn Hughes

    Yn Ysbyty Chatsworth House ym Mhrestatyn y ganed Bryn ar Fai 16 1957, yn ail fab i Ena a Dafydd Morris Jones (a elwid fynychaf yn ‘Eic’) ac yn frawd i Gareth, a’r teulu’n byw yn Abergele ar y pryd. Daethai trydydd brawd i’r byd, sef Gwyn, erbyn i’r teulu symud i Dywyn yn yr hen Sir Feirionnydd.

    Cafodd Bryn ei addysg gynnar yn Ysgol Pen-y-Bryn, Tywyn, a pharhau’i addysg gynradd wedyn yn Ysgol St Paul, Bangor, wedi i’r teulu symud i’r ardal honno, lle ganed ei chwaer, Bethan Catrin.

    Pan ddaeth yn amser i Bryn fynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 1968, i Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda, y trodd ei wyneb, lle’r oedd sicrwydd y câi yntau, fel ei frawd, Gareth, o’i flaen (a Gwyn ar ei ôl), addysg mewn awyrgylch Cymraeg a Chymreig. Tra bu yno, ystyriwyd ef yn fachgen tawel, gweithgar a chydwybodol, bob amser yn gwneud ei orau, ac yn gwrtais a bonheddig ei ddull. Pan gyrhaeddodd y Chweched Dosbarth, dewisodd astudio pynciau gwyddonol, gan lwyddo yn ei arholiadau Safon A a chael ei dderbyn, â’i fryd ar fod yn ddeintydd, i Ysgol Feddygaeth a Deintyddiaeth Genedlaethol Cymru (fel yr adwaenid hi ar y pryd) yng Nghaerdydd, lle graddiodd ym 1982.

    Wedi ennill y cymwyster angenrheidiol ar derfyn ei gwrs, treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn gweithio ym Mhractis Deintyddol Cyffredinol Dr Robert Jones ym Mangor. Yna, ymunodd â’r Gwasanaeth Iechyd Cymunedol, gan wneud cyfraniad sylweddol o ran darparu gwasanaeth yn y gymuned leol yn ardal Llanfairpwllgwyngyll, lle treuliodd ugain mlynedd yn ddeintydd poblogaidd ac uchel ei barch. Anaestheteg ac epidemioleg oedd ei brif ddiddordebau a chafodd gyfle i gydweithio ym maes anaestheteg yn Ysbyty Gwynedd.

    Yn ogystal â bod yn ddeintydd ymroddgar a medrus wrth ei waith, roedd nifer o nodweddion pwysig eraill yn perthyn i Bryn. Roedd yn ŵr amlochrog ei ddoniau ac eang ei ddiddordebau. Mwynhâi gerdded, nofio a hwylio, cadw’n heini’n gyffredinol, gwylio rygbi, heb anghofio’r pleser digymysg a gâi nid yn unig wrth sôn am geir ond hefyd wrth eu trin a’u trwsio. At hynny, roedd yn grefftwr cartref penigamp. Gallai droi ei law at drwsio unrhyw beth ‘a gwneud job iawn ohoni – job fasa’n para’, fel y tystiodd ei frawd, Gareth. Roedd yn dra gofalus a thrylwyr ym mhopeth a wnâi, gan gymryd pob gorchwyl o ddifri, a phob amser yn benderfynol o lwyddo, doed a ddêl.

    Ugain mlynedd yn ôl, chwaraeodd Bryn ran flaenllaw, gyda T. Arfon Williams ac eraill, yn sefydlu’r Gymdeithas Ddeintyddol, a bu’n swyddog gweithgar ac aelod diwyd a ffyddlon ar hyd y blynyddoedd. O gofio mai un o brif amcanion y Gymdeithas wyddonol a chymdeithasol hon yw rhoi cyfle i ddeintyddion drin a thrafod pynciau deintyddol a materion cysylltiol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, gwelwyd yn fuan fod angen llunio rhestr o dermau deintyddol yn yr iaith Gymraeg. Wedi i mi roi sgwrs i’r aelodau yn eu Cinio Gŵyl Dewi ym mis Mawrth 2000, gofynnodd Bryn a William J. Parry i mi a fyddwn yn barod i olygu rhyw 400 o dermau deintyddol a oedd eisoes wedi eu trosi i’r Gymraeg gan T. Arfon Williams. Ychydig a wyddwn y byddai’r 400 yn tyfu yn y man i fod dros 5000 o dermau a’r rheini yn Saesneg yn unig! Prin y gallai unrhyw leygwr yn y maes lwyddo gyda’r fath orchwyl oni bai am gymorth hanfodol y deintyddion eu hunain. Roedd Bryn ymhlith criw bach fu’n cyfarfod yn ysbeidiol i gynnig arweiniad hanfodol er gwarantu cyfieithiadau cywir ac ystyrlon a bu ei ddiddordeb a’i gyfraniad yn bwysig ac allweddol i sicrhau cyhoeddi’r Geiriadur Deintyddiaeth yn 2005.

    Yn yr un modd, ac yntau’n Gadeirydd ac yn gofnodydd trylwyr Pwyllgor y Gymdeithas Ddeintyddol, rhoddwyd ar waith y syniad o sefydlu gwefan i’r Gymdeithas. Roedd diddordeb a brwdfrydedd Bryn yn amlwg o’r cychwyn cyntaf ac ni ellir ond canmol ei frwdfrydedd a’i gyfraniad ymarferol yn y cynlluniau a’r datblygiadau. Mor eironig bellach yw fod y wefan yn fyw a Bryn druan wedi ein gadael – a hynny yng nghanol ei holl weithgarwch.

    Heb os nac oni bai, fodd bynnag, un o’r priodweddau amlycaf ym mhersonoliaeth Bryn oedd ei fod yn ddyn teulu o’r radd flaenaf. Ar hyd y blynyddoedd, bu’n gefn i’w deulu – i’w fam (yn arbennig ar ôl marwolaeth ddisymwth Eic, ei dad) a’i frodyr a’i chwaer; ys dywedodd Gareth amdano yn ei deyrnged gynnes ddydd ei angladd: ‘… fo oedd yr hogyn hirben a doeth, y callaf ohonom ni. Cymorth rhy hawdd ei gael mewn cyfyngder. Yn ofalus a chwbl ddibynadwy …’.

    Tra oedd Bryn yn astudio yng Nghaerdydd, cyfarfu â Jan, a ddaeth yn gymar ac yn angor iddo, a pharhaodd melyster eu perthynas am dros saith mlynedd ar hugain, drwy gyfnod magu eu plant, a hyd at y diwedd un. Roedd yn meddwl y byd o Jan, a hithau ohono fo, a’r ddau’n byw i’w plant ac yn ymhyfrydu yn llwyddiannau pob un ohonyn nhw – Llŷr, Gwion, Branwen a Non.

    Ystyriaf hi’n fraint o fod wedi cael y cyfle i gydweithio mor agos efo Bryn dros gyfnod o ddeng mlynedd a rhagor – wrth baratoi’r Geiriadur Deintyddiaeth yn y lle cyntaf ac, yn ddiweddar, wrth gynllunio a darparu gwefan y Gymdeithas Ddeintyddol. Bu ein perthynas yn un o gyd-ddeall, cyd-drafod a chydweithredu braf ar hyd y blynyddoedd ac roedd gennyf feddwl mawr ohono.

    Mae’r golled yn arw ar ei ôl: collodd Ena fab gwerthfawr a thriw, collodd Jan ŵr cariadus a ffyddlon, a chollodd Llŷr, Gwion, Branwen a Non dad annwyl a gofalus – mae ein cydymdeimlad diffuant iawn â hwy yn eu galar a’u hiraeth. Gadawodd fwlch enfawr ar ei ôl yn y ddeintyddfa yn Llanfairpwllgwyngyll ac ymhlith ei gydweithwyr a’i gyfeillion yn gyffredinol. Nid hawdd fydd llenwi ei le yn y Gymdeithas Ddeintyddol ond cofir yn hir am ei weithgarwch diflino dros ei llwyddiant a’i ymdrechion dyfal dros gryfhau ac ymestyn safle’r iaith Gymraeg yn ei gweithgareddau.

    Dyma Bryn: gŵr trylwyr, manwl a chydwybodol yn ei waith, gŵr gwylaidd, diymhongar, na chlywid fyth mohono’n brolio na chanu’i glodydd ei hun, gŵr hwyliog a fwynhâi ddifyrrwch ymhlith ei deulu a’i gyfeillion, gŵr bonheddig, amhrisiadwy a gollwyd o’n plith mor greulon o gynamserol.


    Dymunaf gydnabod fy niolch i Gareth am gael defnyddio rhai ffeithiau o’r deyrnged a draddododd er cof am ei frawd yn y Gwasanaeth Coffa yng Nghapel Berea Newydd ym Mangor ddydd Mercher, Chwefror 22, 2012, ac, yn yr un modd, am gael codi rhai manylion o’r deyrnged a ddarparwyd gan Dr T. Rhys Davies, Llangefni, ar gyfer y BDJ.

    Robert Jones.

    Teyrnged  gan Dr T. Rhys Davies

    Cafodd Robat Jones ei fagu’n fab i chwarelwr ym mhentref bychan y Fachwen, uwchlaw Deiniolen, yn Eryri. Wedi cwblhau ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynrefail, aeth ymlaen i astudio deintyddiaeth yn Lerpwl a graddio ym 1973.

     Ar ôl treulio cyfnod yn ddeintydd yn Coventry, daeth yn ôl i Gymru a sefydlu practis ym Mangor.

     Cefais y fraint a’r plesar o adnabod Robat a chydweithio efo fo, ar ôl i ni gyfarfod gyntaf ddiwedd y saith degau.

     Mi fûm yn gweithio yn ei ddeintyddfa yn Ffordd y Coleg, Bangor, am oddeutu tair blynedd, a dw i’n dal i gofio i’r adeg honno fod yn gyfnod hapus iawn i mi, yn bersonol ac yn broffesiynol, ac mi hoffwn bwysleisio hefyd fy mod wedi gwerthfawrogi’r cyfle bryd hynny i ddod i adnabod Eirian, gwraig Rob, a’u dwy ferch, Alison a Jennifer.

     Mae’n wir dweud i mi ddysgu cymaint mwy gan Rob nag a wneuthum yn y ddwy ddeintyddfa arall y bûm yn gweithio ynddyn nhw cyn ymuno â Robat. Ac mi hoffwn atgoffa pawb nad oedd, yn y cyfnod hwnnw, mo’r fath beth â Hyfforddiant Galwedigaethol i ddeintyddion.

     O edrych yn ôl, mae’n syndod meddwl pa mor frawychus oedd pethau pan allai deintydd yn y cyfnod hwnnw fynd ati i agor practis yn syth bin ar ôl graddio a bod yn gymwys i roi anaesthetig cyffredinol yn y gadair yn ei ddeintyddfa!

     Ni fyddai dweud bod Rob yn gallu troi ei law at bob math o bethau yn deud y gwir i gyd amdano fo nac yn gwneud cyfiawnder â’i amryfal alluoedd. Yn wir, datblygodd i fod yn feistr ar sawl crefft yn ogystal â deintyddiaeth.

     A throi i ddechra at ddeintyddiaeth. Mae’n briodol dweud iddo ennill ei blwyf yn ei faes drwy Ogledd Cymru gyfan yn fuan iawn ar ôl agor ei bractis ym Mangor yng nghanol y saith degau. Daeth yn uchel ei barch nid yn unig ar sail safon dechnegol ei waith ond hefyd fel cyfaill i lawer ac aelod o sawl pwyllgor deintyddol. Mi fu’n weithgar iawn gyda’r BDA, yn cadeirio pwyllgora ac yn aelod selog o gangen y Gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru. Cynrychiolodd ddeintyddion ar y GDSC yn Llundain, y WGDSC yng Nghaerdydd ac ar yr LDC yng Ngwynedd.

     Daeth hefyd yn llefarydd ar ein rhan ni, Y Gymdeithas Ddeintyddol, a’r BDA, a chlywid ei lais cyfarwydd yn aml ar y radio a byddai’n ymddangos hefyd ar y teledu o bryd i’w gilydd. Byddai bob amser yn cyflawni ei ddyletswydd yn gwbl broffesiynol a difyr.

     Un diddordeb arbennig gan Robat, un y bûm yn dyst cynnar ohono, oedd hud a lledrith neu gonsurio. Dechreuodd hynny’n ddigon diniwed, trwy gipio anrheg Nadolig o ddwylo un o’i blant a gwneud iddo ddiflannu o dan eu trwynau. Dyna fu’r man cychwyn digon syml ond ’fu Robat ddim yn hir iawn cyn datblygu meistrolaeth lwyr a chyflawn ar y gamp yn gyffredinol. Yn wir, cyrhaeddodd safon mor broffesiynol nes cael ei dderbyn yn aelod o’r Magic Circle a chael hefyd ei gyfres ei hun ar S4C. Mi fydd ambell un sydd yma heddiw yn cofio fel y byddai ambell gyfarfod a chynhadledd ddeintyddol yn cael ei bywiogi gan Rob a’i gastiau!

     Bu Robat yn aelod o’r Clwb Rotary ym Mangor am gyfnod maith o dros 35 o flynyddoedd. Daeth yn adnabyddus fel un garw a llwyddiannus am godi arian at achosion da drwy gynnal ambell gabaret neu redeg ocsiwn.

     Mae’n rhaid crybwyll rŵan y cyfnod pan nad oedd modd yn y byd i ddenu Rob i hedfan gan gymaint oedd ei ofn o fentro mewn awyren i’r entrychion. Ond daeth tro ar fyd pan gafodd o ‘hediad prawf’ yn anrheg. Mi fu’i droëdigaeth yn gwbl ysgytwol: cyn pen dim, roedd o nid yn unig wedi ennill ei drwydded peilot ond roedd o hefyd wedi cael ei godi’n Llywydd Clwb Hedfan Mona ac yna’n un o’r Ymddiriedolwyr. Hedfanodd yn helaeth o gwmpas gwledydd Prydain a thros Ewrop hefyd.

     Yn ogystal â’r hwyl a gâi yn yr awyr, câi lawer o bleser, hefyd, yn hwylio ar y môr, ac yn mordwyo o gwmpas arfodir Cymru yn fynych. At hynny, manteisiodd ar y cyfle i ddatblygu ei sgiliau mewn sgwba blymio a thynnu lluniau ochr yn ochr â hynny yn ystod ei anturiaethau.

     Ymysg ei ddiddordebau eraill yr oedd arlunio, cyfeirio ralïau ceir, a cheir clasurol. Bu’n athro Ysgol Sul … yn wir, roedd rhestr diddordebau’r gŵr amryddawn ac amlochrog hwn yn helaeth ac amrywiol iawn.

     A chofiwn fod Rob yn dilyn ei holl ddiddordebau gydag afiaith ac ymroddiad, bob amser yn awyddus i gyfrannu, gan arwain drwy esiampl yn ddi-feth. Ar y naill law, roedd yn berson diymhongar ond eto mor barod i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu gyda golwg ar gyflawni.

     Er ei holl ddiddordebau a’i ddoniau, ei brif ymroddiad oedd ei ffyddlondeb i’w deulu, ei wraig, Eirian a’r genod, Alison a Jennifer, a’u plant nhw – roedd gynno fo bedwar o wyrion – ac yntau’n meddwl y byd ohonyn nhw bob yr un.

     Buom yn hynod ffodus fel Cymdeithas i fod wedi cael y fraint a’r pleser o’i adnabod a mwynhau ei gwmni o’r dyddiau cynnar.

     Gresyn nad ydi o yma efo ni heddiw, ond diolch amdano.

    John F Humphreys Jones.

    1918-2012

    Ar Ebrill I2fed 2010, bu farw Francis Humphreys Jones yn 91 rnlwydd oed. Mwynhaodd oes hir, hapus a diddorol. Fe’i ganwyd ym 1918 yn Llanfaglan, Caernarfon, yr hynaf o dri o feibion. Ffarmwr oedd ei dad, a fu farw pan nad oedd Francis ond yn saith oed. Symudodd ei fam o’r ffarm a magu’r meibion yn Llandrillo-yn-Rhos.

     Cafodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun, lle disgleiriai mewn chwaraeon a mabolgampau ac fe ddaeth yn ddirprwy brif ddisgybl yr ysgol honno. Aeth i Brifysgol Lerpwl i astudio deintyddiaeth ac yn syth ar ôl cymhwyso, ymunodd â‘r Llynges Frenhinoi ym 1941. Tra oedd ar yr H.M.S. Glendower ef oedd yn gyfrifol am iechyd deintyddol y morwyr cyn iddyn nhw fynd allan i’r môr. Yn ystod y cyfnod hwnnw, cyfarfu â’i wraig, Mair, ac fe gafodd y ddau fwynhau 56 mlynedd o fywyd priodasol hapus cyn marwolaeth ei briod yn 2002.

     

    Gwasanaethodd ar H.M.S. Sheffied fel Surgeon Lieutenant (D) yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bu’r llong honno â rhan yn y glanio yn Salerno ac yn ddiweddarach ym mrwydr North Cape, lle suddwyd y llong ryfel Almaenig Sharnhurst. Yn Scapa Flow, ym Mai 1944, dewiswyd ef yn Swyddog i gynrychioli H.M.S. Sheffield i giniawa gyda’r Brenin yng nghaban y Llyngesydd ar long ryfel y Duke of York. Derbyniodd dair medal goffa gan Iywodraeth Rwsia am ei ran yn cludo nwyddau ar draws yr Iwerydd ar gyfer yr Undeb Sofietaidd yn ystod y rhyfel.

     Ar ôl y rhyfel dychwelodd i Gaernarfon lle bu’n ddeintydd am bron i ddeugain mlynedd, gyda diddordeb arbennig mewn prostheteg. Roedd yn boblogaidd iawn gyda phawb a’i hadwaenai ac roedd ei bersonoliaeth hynaws, hamddenol ac addfwyn yn ennyn parch ei holl gleifion.

     Roedd yn falch iawn o’i dreftadaeth Gymreig. Bu‘n llywydd Cymdeithas Ddinesig Caemarfon, ac yn llwyddiannus o ran sicrhau cadwraeth rhai o adeiladau hynafol unigryw a hanesyddol hen dref Caernarfon. Bu’n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1970-71 ac yn llywydd y Gymdeithas Ddeintyddol rhwng 1999 a 2002. Llwyn y Brain, Llanrug, oedd cartref y teulu a ffarmio oedd ei hoff ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod hir o waith yn ei ddeintyddfa, a byddai wrth ei fodd adeg wyna a chynhaeaf gwair.

     Gadawodd ddwy ferch, Gwenllïan a Rhiannon, ac ŵyr a wyres.

     

    William J. Parry