Gwobrau'r Gymdeithas Ddeintyddol.

Cystadleuaeth Tlws Bryn.

Caiff Cystadleuaeth Tlws Bryn ei gynnal bob blwyddyn yn y gynhadledd deintyddol yn yr Hydref. (Cynhadledd Y Gymdeithas Ddeintyddol).

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fyfyrwyr deintyddol a myfyrwyr gofal denityddol proffesiynol, yn ogystal a’r rhai sydd wedi graddio o fewn tair blynedd i ddyddiad y gynhadledd.

Rhaid paratoi cyflwyniad 15-20 munud ac ateb cwestiynau ar y pwnc. Caiff y cyflwyniad fod ar unrhyw bwnc o fewn y maes deintyddol (er enghraifft, gwaith ymchwil, prosiect denintyddol, cyflwyniad ar glaf neu driniaeth penodol, gwaith deintyddol gwirfoddol, prosiect llywodraethu clinigol (clinical governance) megis awdit, neu unrhyw beth arall sy’n berthnasol i’r pwnc deintyddol).

Bydd pob cyflwyniad yn cael ei asesu a’i farcio yn ôl y cyflwyniad ei hun, y cynnwys, y casgliadau, ei werth addysgiadol, safon yr iaith a gwreiddioldeb y prosiect. Bydd yr enillydd yn derbyn tlws arbennig er cof am Bryn yn ogystal â thystysgrif a gwobr ariannol.

Dylid gwneud cais ar gyfer Cystadleuaeth Tlws Bryn drwy gwblhau y ffurflen gais ar y dudalen hon a chynnwys crynodeb o’r prosiect. Dylai hyn gael ei yrru un mis cyn dyddiad y gynhadledd. Hynny yw, bydd y dyddiad cau fis yn union cyn dyddiad y gynhadledd. (Nodwch fod dyddiad y gynhadledd yn newid bob blwyddyn, felly edrychwch ar ‘Rhaglen Eleni’ i gadarnhau dyddiad y gynhadledd. Cariff ei gynnal yn nhymor yr Hydref gan amlaf.)

Gwnewch gais argyfer cystadleuaeth Tlws Bryn.

Crynodeb o’r prosiect ar ffurf PDF

Hanes gwobr Tlws Bryn.

Bryn Morris Jones oedd un o sefydlwyr y Gymdeithas Ddeintyddol ac ef oedd Cadeirydd y Gymdeithas pan fu farw’n frawychus o sydyn fis Chwefror 2012. Er coffadwriaeth amdano, penderfynodd y Gymdeithas Ddeintyddol sefydlu cystadleuaeth fyddai’n cael ei chynnal yn flynyddol yn y gynhadledd. Mae ‘Tlws Bryn Morris Jones’ yn cael ei gyflwyno i’r deintydd ifanc sydd yn rhoi’r cyflwyniad gorau mewn rhan arbennig o’r gynhadledd.

Roedd Bryn bob amser yn gefnogol i bobl ifanc a oedd yn dechrau ar eu gyrfa yn y byd deintyddol ac yntau’n ddeintydd oedd yn gweithio yn y gymuned, trin pobl ifanc oedd ei ddiddordeb pennaf. Priodol, felly, oedd i’r Gymdeithas gynnal cystadleuaeth i bobl ifanc yn benodol.