Cyhoeddiadau.

Mae’r Gymdeithas Ddeintyddol wedi cynhyrchu a chyfiaethu nifer o adnoddau i alluogi deintyddion a gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i gyfathrebu gyda’u gilydd a gyda’u cleifion yn yr iaith Gymraeg.

Taflenni.

Gyda chaniatâd y BDA, troswyd i’r Gymraeg 29 o daflenni ar gyfer cleifion deintyddol yn ymwneud ag amrywiol driniaethau. Taflenni’n cyflwyno gwybodaeth a chyngor i gleifion yw’r rhain (er enghraifft, beth i’w wneud ar ôl cael tynnu dant, aroglau drwg ar y gwynt, archwiliad deintyddol, etc).

Dylid nodi nad yw’r taflenni hyn wedi eu diweddaru ers y cyfiaethiad gwreiddiol yn 2009.

Title
Problemau’r cymal arlais-fandibol* (yr ên)
Pelydrau-x Deintyddol
Trydydd Cilddannedd*
Llenwadau* Gwynion
Argaenau*
Dannedd yn erydu*
Gwynnu*’r dannedd
Llenwadau* Arian
Digennu a llathru*
Plaenio’r gwreiddyn/ciwretiad
Triniaeth Sianel y Gwreiddyn*
Dannedd gosod symudadwy*
Clefydau Periodontol / Clefydau’r Gorchfannau*
Canser y geg
Mewnosodiadau* a throsgaenau*
Mewnblaniadau* Deintyddol
Bwyta’n iach
Fflworid

    O geg y deintydd.

    Mae’r Gymdeithas Ddeintyddol yn falch o fod wedi cyhoeddi llyfr ‘O geg y deintydd/From the dentist’ mouth’. Mae’r llyfr dwyieithog hwn yn cynnwys gosodiadau a chwestiynau sy’n cael eu defnyddio yn amal gan y tîm deintyddol wrth drafod problemau a thriniaethau gyda cleifion. Mae’r llyfr wedi ei anelu at gleifion ac aelodau o’r tîm deintyddol sydd yn dysgu Cymraeg.

    Cysylltwch â ni am gopi caled o’r cyhoeddiad (i’w gael yn rhad ac am ddim), neu defnyddiwch y copi PDF sydd ar y wefan.

    Cysylltwch â ni