Croeso i wefan y Gymdeithas Ddeintyddol

Croeso i Adran Cleifion gwefan y Gymdeithas Ddeintyddol. Yn yr Adran hon, mae’r Gymdeithas wedi ceisio darparu gwybodaeth, nad yw ar gael yn unman arall, yn yr iaith Gymraeg, er mwyn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd pob dydd.

Rydym wedi cynnwys adran lle gellir dod o hyd i ddeintydd sy’n siarad Cymraeg, fel y gall cleifion gysylltu â'r deintydd Cymraeg ei iaith sydd agosaf atynt ac sydd wedi cofrestru efo’r Gymdeithas fel un sy'n gallu trin cleifion drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid yw’r wefan yn nodi a yw’r deintyddion hyn yn derbyn cleifion newydd ar yr union adeg honno, a chynghorwn gleifion i ffonio’r ddeintyddfa i gael gwybodaeth am y drefn gofrestru gyfredol.

Mae'r adran 'Taflenni' yn cynnwys 29 o Daflenni Gwybodaeth a gyfieithwyd gan y Gymdeithas o Daflenni Gwybodaeth y BDA (British Dental Association) er mwyn i gleifion allu darllen am ddarpar-driniaethau yn eu mamiaith.

Mae'r adran 'Termau' yn cynnwys gwybodaeth am ein cyhoeddiad diweddar O Geg y Deintydd / From the Dentists’ Mouth a ddarparwyd i fod o gymorth i gleifion drwy fod â chyfieithiadau o eiriau ac ymadroddion cyffredin a fyddai’n debygol o gael eu defnyddio yn ystod ymweliad â’r deintydd. Mae hwn ar gael fel cyhoeddiad printiedig mewn deintyddfeydd neu mewn ffurf y gellir ei lawrlwytho o’n gwefan.

Taflenni Casgliad o daflenni Cymraeg defnyddiol yn ymwneud ag amrywiol driniaethau deintyddol.
Termau Termau deintyddol Cymraeg i’ch helpu i siarad efo’ch deintydd, eich hylenydd deintyddol, eich nyrs ac yn y dderbynfa.
Gyrfaoedd Oes gynnoch chi ddiddordeb mewn gyrfa ym maes gofal iechyd deintyddol? Mae yma wybodaeth a dolenni buddiol i unrhyw un sy’n ystyried gyrfa fel deintydd,, hylenydd deintyddol, nyrs ddeintyddol neu dderbynnydd deintyddol.
Cael hyd i Ddeintydd sy'n Siarad Cymraeg Chwilio am ddeintydd sy’n siarad Cymraeg? Defnyddiwch y dudalen hon, gan ddefnyddio eich côd post.
"Sefydlwyd y Gymdeithas Ddeintyddol ym 1991 i wasanaethu deintyddion ac ymarferwyr cysylltiol ym maes deintyddiaeth ac orthodonteg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Manteisir ar bob cyfle i hybu a hyrwyddo’r Gymraeg o fewn y maes."

© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol
Gwefan gan Dylunio Bilberry & Dylunio Gringo