Gyrfaoedd

Bwriad yr adran hon yw cyflwyno’r gwahanol lwybrau gyrfaol sy’n agored i unigolion sydd yn awyddus i ddilyn gyrfa fel aelod o dîm deintyddol. Mae tîm deintyddol yn cynnwys deintyddion, cynorthwywyr deintyddol, hylenyddion deintyddol, therapyddion deintyddol a rheolwyr practis deintyddol.

Deintydd

Ymarferydd mewn gofal iechyd yw deintydd (neu lawfeddyg deintyddol fel y caiff ei alw hefyd) sy’n arbenigo mewn diagnosio, atal a thrin afiechydon a chyflyrau yn y geg.

Llwybrau Gyrfaol Posib

Cynorthwy-ydd mewn Deintyddfa

Mae nyrs ddeintyddol yn cefnogi deintydd ym mhob agwedd ar ofal y claf, ac mae hynny’n golygu cael yr offer priodol yn barod , cymysgu deunyddiau, a gwneud yn siŵr fod y claf yn gyfforddus. Bydd hefyd yn cymryd nodiadau a gaiff eu harddweud gan y deintydd ar gyfer cofnodion ac wedi i’r claf adael bydd y nyrs yn tacluso’r ddeintyddfa ac yn steryllu’r offer i gyd. Mewn practis deintyddol cyffredinol, fe all y nyrs ddeintyddol weithiau helpu gyda’r gwaith yn y dderbynfa – gwneud apwyntiadau, derbyn taliadau, gwneud gwaith papur, a chyfarfod a chysuro cleifion.

http://www.badn.org.uk/

Hylenydd Deintyddol

Mae hylenyddion deintyddol wedi cael hyfforddiant arbennig i weithio gyda deintyddion i ofalu am gleifion. Maen nhw’n chwarae rhan bwysig mewn gofal iechyd ac yn ymwneud yn bennaf ag iechyd y gorchfannau, gan ddangos i bobl sut i roi gofal cywir yn y cartref a sut i gadw’r dannedd a’r gorchfannau’n iach.

http://www.bsdht.org.uk/

Therapydd Deintyddol

Mae therapydd deintyddol yn weithiwr proffesiynol ym maes gofal iechyd sydd wedi ei hyfforddi i weithio mewn deintyddiaeth. Gall yr hyfforddiant a’r ymarfer gynnwys trin dannedd plant ac oedolion, defnyddio anaesthesia lleol, gwneud adferiadau, glanhau, tynnu dannedd, a chymryd lluniau pelydr-x.

http://www.bsdht.org.uk/

Gweinyddwyr a Rheolwyr Deintyddol

Swyddogaeth Rheolwr Practis yw cydgysylltu â’r Prif Dderbynnydd, y Nyrs Ddeintyddol a’r Tîm Clinigol er mwyn sicrhau bod y practis yn ei gyfanrwydd yn rhedeg yn llyfn ac effeithlon.

http://www.adam-aspire.co.uk/

Technegwyr Deintyddol

Mae technegwyr deintyddol (neu dechnolegwyr deintyddol fel y cyfeirir atynt yn aml) yn gwneud dannedd gosod, coronau, pontydd a sythwyr deintyddol sy’n gwella’r ffordd y mae pobl yn edrych a’u gallu i gnoi.Drwy ddilyn presgripsiynau deintyddion neu feddygon, mae technegwyr/ technolegwyr yn defnyddio amrediad eang o ddeunyddiau, gan gynnwys aur, porslen a phlastig, i gynllunio a gwneud cyferpynnau i gwrdd ag anghenion cleifion.

http://www.dta-uk.org/


© 2013 Y Gymdeithas Ddeintyddol